Os ydych chi’n rhiant sy’n gweithio ac mae gennych chi blentyn neu blant rhwng 3 a 4 oed, fe allwch chi fod yn gymwys i gael gofal plant ac addysg gynnar am ddim o fis Medi ymlaen.
Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar wedi’i ariannu gan y llywodraeth i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn o fis Medi 2020 ymlaen.
Mae’r “Cynnig Gofal Plant i Gymru” bellach wedi cael ei brofi a’i ddefnyddio mewn sawl ardal yng Nghymru ers 2017, ac o fis Medi ymlaen, bydd ar gael i rieni cymwys mewn nifer gyfyngedig o ardaloedd yn Wrecsam. Y bwriad yw cyflwyno’r cynnig fesul cam i’r sir gyfan erbyn Medi 2020.
Mae’r Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant yn croesawu’r newyddion, gan ddweud: “Mae hon yn fenter wych ac rwy’n falch iawn y bydd rhieni Wrecsam yn cael elwa arni cyn bo hir. Diffyg gofal plant fforddiadwy yw un o’r prif rwystrau sy’n atal rhieni rhag mynd yn ôl i weithio, a bydd gofal plant ac addysg gynnar am ddim fel hyn yn siŵr o apelio at nifer o deuluoedd. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y bydd ar gael ac fe wnawn ni’n siŵr y cewch chi’ch hysbysu.”
Yr ardaloedd sydd wedi’u dewis i gymryd rhan o fis Medi ymlaen yw Bronington, Coedpoeth, Dwyrain a Gorllewin Gresffordd, Gwersyllt, Holt, Llai, Merffordd a Hoseley, Brychdyn Newydd, Owrtyn, Ponciau a’r Orsedd.
Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys pwy fydd yn gymwys a sut i wneud cais, ar gael yn yr wythnosau nesaf, ac fe wnawn ni’n siŵr eich bod chi’n cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI