Mae cynnydd yn cael ei wneud ar gynllun i roi gwarchodaeth gyfreithiol i ddeg parc yn Wrecsam gyda’r elusen mannau gwyrdd, Meysydd Chwarae Cymru (Fields in Trust).
Rydym ni a Meysydd Chwarae Cymru bellach wedi llofnodi cytundeb partneriaeth i sicrhau y bydd Gweithredoedd Cyflwyno i warchod ardaloedd o fannau agored yn ein parciau gwledig cyn diwedd yr haf. Bydd hyn yn golygu y byddant ar gael at ddefnydd hamdden ac i gynnig manteision amgylcheddol am byth! Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau i’w rheoli a bod yn berchen arnynt.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Ar ôl i’r Bwrdd Gweithredol gytuno y llynedd i’r gwaith hwn gael ei wneud, rydym ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Meysydd Chwarae Cymru i gytuno ar yr ardaloedd gwarchodedig, a datblygu cytundeb partneriaeth. Dan delerau’r cytundeb, byddwn ni a Meysydd Chwarae Cymru’n cydweithio i sicrhau bod popeth yn digwydd yn ôl y bwriad ar sail gyfreithiol.
Wrecsam yw’r cyngor cyntaf yng Nghymru i warchod portffolio mawr o fannau gwyrdd lleol i geisio atal newid hinsawdd. Mae ychwanegu’r deg lleoliad yma’n dod â chyfanswm y parciau a’r mannau gwyrdd mae Meysydd Chwarae Cymru’n eu gwarchod yng Nghymru i 300, ac mae 37 o’r rheiny yn Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae hyn yn gynnydd gwych ac, yn fuan iawn, fe fydd y parciau yma wedi’u gwarchod yn gyfreithiol am byth.
“Rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o’n hamgylchedd a bydd hyn yn gwarchod yr ardaloedd yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a bydd yn bwysig i sicrhau ein bod yn cyrraedd statws carbon niwtral erbyn 2030.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae ein parciau’n asedau gwyrdd rydym ni’n falch iawn ohonyn nhw a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith yma i sicrhau bod amgylchedd Wrecsam yn parhau i fod yn naturiol a hardd.”
Dywedodd Uwch Reolwr Gweithrediadau a Stiwardiaeth Fields in Trust, Angela Lewis, “Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Rydym ni’n falch iawn y bydd ein partneriaeth yn gwarchod y parciau a’r mannau gwyrdd hyfryd yma i bobl Wrecsam am byth.
“Rydw i’n llongyfarch Cyngor Wrecsam am eu harweinyddiaeth, gan sicrhau y bydd y manteision i iechyd, lles a’r amgylchedd wedi’u diogelu at y dyfodol ac y bydd y mannau gwyrdd yn cael eu gwarchod i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.”
Mae’r deg parc a fydd yn cael eu nodi fel mannau gwyrdd dan y rhaglen ‘Green Spaces for Good’ fel a ganlyn:
- Dyfroedd Alun
- Tŷ Mawr
- Bonc yr Hafod
- Stryt Las
- Melin y Nant
- Dyffryn Moss
- Y Mwynglawdd
- Parc Acton
- Brynkinalt
- Ponciau
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH