Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Stopio cosbi corfforol yng Nghymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Stopio cosbi corfforol yng Nghymru
Pobl a lle

Stopio cosbi corfforol yng Nghymru

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 16, 2022 4:50 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
cosbi corfforol
RHANNU

Mae 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru. O’r diwrnod hwn ymlaen, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rydyn ni eisiau amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.

Cynnwys
  • Beth yw cosb gorfforol?
  • Beth mae’r newid yn y gyfraith yn ei olygu?
  • A fydd y newid yn y gyfraith yn berthnasol i bawb yng Nghymru? (From photo on page 1)
  • Beth sy’n digwydd os bydd pobl yn cosbi plentyn yn gorfforol o 21 Mawrth 2022?
  • A yw’n gyfreithiol cosbi plant yn gorfforol ar hyn o bryd?
  • Beth ddylwn i ei wneud os byddaf i’n gweld plentyn yn cael ei gosbi’n gorfforol neu osydw i’n poeni am blentyn?

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Beth yw cosb gorfforol?

Mae sawl math o gosb gorfforol. Fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd.

Ond mae mathau eraill hefyd.

Mae’n amhosibl rhestru pob math o gosb gorfforol.

Gall fod yn unrhyw ddull o gosbi plentyn gan ddefnyddio grym corfforol.

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai unrhyw fath o gosb gorfforol fod yn niweidiol i blant.

Beth mae’r newid yn y gyfraith yn ei olygu?

  • Bydd cosbi corfforol o unrhyw fath yn anghyfreithlon yng Nghymru.
  •  Bydd gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.
  •  Bydd yn gwneud y gyfraith yn gliriach – haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall.

A fydd y newid yn y gyfraith yn berthnasol i bawb yng Nghymru? (From photo on page 1)

  • Bydd cosbi corfforol o unrhyw fath yn anghyfreithlon yng Nghymru.
  • Bydd gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.
  • Bydd yn gwneud y gyfraith yn gliriach – haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall.

Beth sy’n digwydd os bydd pobl yn cosbi plentyn yn gorfforol o 21 Mawrth 2022?

Bydd unrhyw un sy’n cosbi plentyn yn gorfforol:

• yn torri’r gyfraith
• mewn perygl o gael ei arestio neu ei gyhuddo o ymosod
• efallai yn derbyn cofnod troseddol, sydd yr un fath ar gyfer unrhyw drosedd.

Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen, i’w helpu i ddod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant, i helpu i osgoi sefyllfa o’r fath.

A yw’n gyfreithiol cosbi plant yn gorfforol ar hyn o bryd?

Mae rhywfaint o amwysedd. Mae taro plentyn yn ymosodiad cyffredin. Os bydd rhiant, neu rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant, yn cael ei gyhuddo o ymosodiad cyffredin ar blentyn, gallai’r unigolyn hwnnw geisio defnyddio amddiffyniad cosb resymol. O 21 Mawrth 2022, ni fydd unrhyw un yn cael defnyddio’r amddiffyniad hwnnw yng Nghymru; bydd pob math o gosbi corfforol yn anghyfreithlon.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf i’n gweld plentyn yn cael ei gosbi’n gorfforol neu osydw i’n poeni am blentyn?

  • Cysylltwch â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol leol.
  • Gallwch hefyd ffonio’r heddlu mewn argyfwng neu os yw plentyn mewn perygl.

I gael rhagor o wybodaeth am stopio cosbi corfforol yng Nghymru, ewch i: llyw.cymru/StopioCosbiCorfforol 

I gael gwybodaeth ac awgrymiadau am rianta cadarnhaol, ewch i Magu Plant. Rhowch amser iddo: llyw.cymru/rhowchamseriddo

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Carbon Reduction Ysgolion i dderbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn gweithdy lleihau carbon
Erthygl nesaf Alyn Waters Cynnydd ar ‘Green Spaces for Good’

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English