Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19: Ailagor adeiladau’r Cyngor i’r cyhoedd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19: Ailagor adeiladau’r Cyngor i’r cyhoedd
Y cyngor

Covid-19: Ailagor adeiladau’r Cyngor i’r cyhoedd

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 17, 2022 11:40 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Gwybodaeth
RHANNU

Bydd Cyngor Wrecsam yn ailagor ei adeiladau cyhoeddus ddydd Llun 21 Mawrth wrth i Gymru barhau i ddod allan o bandemig y coronafeirws.

Cynnwys
  • Galw Wrecsam
  • Dysgu byw gyda’r feirws

Mae rhai adeiladau, fel llyfrgelloedd, canolfannau adnoddau cymunedol a Thŷ Pawb, wedi bod ar agor i gwsmeriaid ers tro bellach, ond mae eraill wedi aros ar gau tra bo’r pandemig yn fwy difrifol.

Adeiladau a fydd yn ailagor i’r cyhoedd ar 21 Mawrth yw derbynfa Neuadd y Dref a swyddfeydd ystadau tai lleol.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Galw Wrecsam

Mae Galw Wrecsam, sef canolfan cyswllt cwsmeriaid y cyngor ar Stryt yr Arglwydd, wedi bod ar agor ar gyfer apwyntiadau ers y llynedd.

Fodd bynnag, bydd y ganolfan yn ailddechrau gwasanaethau wyneb yn wyneb llawn i gwsmeriaid yr wythnos nesaf – gan gynnwys ymholiadau heb apwyntiadau (sylwch y bydd angen trefnu apwyntiadau ar gyfer ymholiadau mwy cymhleth o hyd).

Ond cyn i chi gychwyn ar eich siwrnai, cofiwch fod rhifau ffôn cyhoeddus y cyngor i gyd ar gael ar ein gwefan ac mae nifer o wasanaethau hefyd ar gael ar-lein.

Yn wir, y ffordd gyflymaf a hawsaf i gwsmeriaid gael gafael ar wasanaethau fel arfer yw trwy fynd ar-lein.

Dysgu byw gyda’r feirws

Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:

“Er nad yw Covid-19 wedi diflannu’n llwyr, rydym mewn sefyllfa llawer gwell rŵan o ganlyniad i’r cyfraddau brechu uchel a’r imiwnedd ymysg y boblogaeth.

“Fel gweddill Cymru a’r DU, mae’n teimlo ein bod bellach yn symud allan o gyfnod argyfwng y pandemig ac i mewn i gyfnod lle rydym yn dysgu ymdopi a byw gyda’r feirws.

“O ganlyniad, bydd unrhyw adeiladau cyhoeddus neu bwyntiau mynediad wyneb yn wyneb sydd heb agor eto, yn ailagor ar 21 Mawrth.

“Mae hyn hefyd yn adlewyrchiad o’r llacio cyfyngiadau Covid sy’n digwydd yn barhaus ledled Cymru.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Alyn Waters Cynnydd ar ‘Green Spaces for Good’
Erthygl nesaf Traditional Building Skills Y wybodaeth ddiweddaraf am Adnewyddu’r Marchnadoedd – £2m wedi ei rhoi gan Lywodraeth Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English