Dywed Cyngor Wrecsam y bydd cynnydd sylweddol gyda materion cynllunio ‘ffosffadau’ o’r diwedd yn helpu i ryddhau datblygiadau a thwf economaidd yn y fwrdeistref sirol.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae targedau amgylcheddol cenedlaethol diwygiedig a gynlluniwyd i leihau lefel y ffosffad sy’n mynd i afonydd a dyfrffyrdd mwyaf amgylcheddol sensitif Cymru wedi effeithio’n sylweddol ar allu nifer o Awdurdodau Cynllunio Lleol ar draws Cymru i roi caniatâd cynllunio.
Gall datblygiadau newydd gynyddu’r lefel o ddŵr budr y mae’n rhaid i Waith Trin Dŵr Gwastraff ymdrin ag o, a gall hyn effeithio ar lefel y ffosffad sy’n cael ei ryddhau i afonydd. Bu’n anodd cyrraedd y targedau newydd – ar arweiniodd hyn ar atal gwneud penderfyniad ar nifer o geisiadau cynllunio.
Fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Dŵr Cymru (DC) a Bwrdd Rheoli Maethynnau Dalgylch y Dyfrdwy, ymhlith budd-ddeiliaid eraill.
Mae hyn wedi arwain at gyhoeddi Trwyddedau Amgylcheddol diwygiedig ar gyfer gwaith trin dŵr gwastraff mwyaf y fwrdeistref sirol yn Five Fords, yn ogystal â gwaith yng Ngresffordd.
O ganlyniad, gall y cyngor nawr benderfynu ar geisiadau cynllunio mewn ardaloedd a wasanaethir gan y gwaith trin dŵr dan sylw.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud cynnydd a hoffwn ddiolch i dîm cynllunio’r Cyngor, CNC, Dŵr Cymru a Bwrdd Rheoli Maethynnau Dalgylch y Dyfrdwy am gydweithio’n agos ar y mater allweddol hwn.
“Gallwn nawr wneud penderfyniadau ar nifer o geisiadau nad oedd modd i ni eu hystyried o’r blaen, a bydd hyn yn ein helpu i ryddhau datblygiadau yn Wrecsam a hwyluso twf economaidd.”
Gweithio trwy’r ôl-groniad
Bu’n rhaid gohirio nifer o geisiadau cynllunio oherwydd y materion ffosffadau.
Fodd bynnag, yn sgil y trwyddedau newydd, gall y Cyngor bellach ystyried ceisiadau sy’n cyfateb i tua 2,900 o gartrefi newydd a wasanaethir gan y gwaith dŵr yn Five Fords, a 170 a wasanaethir gan y gwaith yng Ngresffordd.
Bydd ceisiadau eraill yn cael eu hystyried fesul achos, ar ôl ymgynghori â Dŵr Cymru – sy’n arwydd o ddychwelyd i fusnes arferol.
Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau y bydd angen buddsoddi yn Five Fords yn y dyfodol, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio a chaniatáu cysylltu rhagor o ddatblygiadau adeiladu. Bydd y buddsoddiad hwn yn amodol ar gymeradwyaeth gan y rheoleiddiwr dŵr, Ofwat.
Dywedodd y Cynghorydd Evans: “Bydd ein tîm cynllunio nawr yn gweithio trwy’r ôl-groniad sylweddol o geisiadau.
“Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r rhai sydd agosaf at ddechrau’r gwaith adeiladu, yn ogystal â datblygiadau sy’n ymwneud â chyflogaeth a gwasanaethau, cynigion tai fforddiadwy a datblygiadau â phwysau brys o ran amser.
“Fodd bynnag, rydym yn gofyn i ymgeiswyr am eu hamynedd a’u dealltwriaeth, gan y bydd gweithio trwy’r ôl-groniad yn dasg enfawr.”
Gwaith dŵr Wrecsam…
Mae gwaith dŵr Five Fords yn gwasanaethu’r ddinas a llawer o’r fwrdeistref sirol, gan gynnwys:
- Y Bers
- Broughton
- Brymbo
- Bwlchgwyn
- Y Waun
- Coedpoeth
- Cross Lanes
- Gwynfryn
- Johnstown
- Marchwiail
- Y Mwynglawdd
- New Brighton
- Pentre Bychan
- Penycae
- Rhosllannerchrugog
- Rhostyllen
- Rhiwabon
- Southsea
- Tan-y-fron
Mae gwaith dŵr Gresffordd yn gwasanaethu:
- Bradle
- Gresffordd
- Gwersyllt
- Llai
- Rhosrobin
- Sydallt
Mae disgwyl i Drwyddedau Amgylcheddol Diwygiedig gael eu cadarnhau ar gyfer gwaith dŵr Cefn Mawr a Lavister yn fuan iawn.
Rhoddir trwyddedau diwygiedig i waith dŵr eraill yn y fwrdeistref sirol o fewn blwyddyn – er nad yw’n glir ar hyn o bryd a fydd modd iddynt ymgymryd â datblygiadau ychwanegol.
Bydd Bwrdd Rheoli Maethynnau Dalgylch y Dyfrdwy yn parhau i fonitro’r sefyllfa ar gyfer pob un o’r safleoedd hyn.