Yng nghyfarfod ein Bwrdd Gweithredol yn gynharach yr wythnos hon, cytunodd aelodau i gynyddu’r taliadau ar gyfer darparwyr Llety â Chymorth.
Bydd y taliadau’n cynyddu o £140 yr wythnos i £255 yr wythnos.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Mae lleoliadau Llety â Chymorth yn darparu ystafell arbennig i unigolyn ifanc mewn cartref preifat, lle byddant yn aelod o’r aelwyd, ond nid oes disgwyl iddynt fod yn aelod o’r teulu.
Mae’r darparwyr yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol, gan gydweithio gyda Thîm Gofal Gadael Gofal Gwasanaethau Plant CBSW i helpu a chefnogi’r unigolyn ifanc i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd fel unigolyn annibynnol.
Pwy yw’r bobl ifanc mewn Llety â Chymorth?
Y bobl ifanc yw’r rhai sy’n gadael gofal neu rai na allant fyw gartref mwyach, ac nad ydynt yn barod i ymdopi â byw ar eu pennau eu hunain eto.
Meddai’r Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, “rwy’n falch iawn bod y cynnydd hwn wedi cael ei gytuno. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl ifanc i aros yn y gymuned y maent yn gyfarwydd â hi, yn ogystal â’u cefnogi i geisio cymorth a datblygu’r sgiliau ar gyfer bywyd fel oedolyn annibynnol.
“Gobeithiwn y bydd y cynnydd hwn yn helpu i recriwtio darparwyr newydd a chadw darparwyr presennol.”
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Llety â Chymorth ar ein gwefan.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI