NODWCH – Mae’r ymgynghoriad hon wedi ei gau (01.12.17)
Mae dros 2,800 ohonoch chi wedi cymryd rhan yn ein hymgynghoriad ‘Penderfyniadau Anodd’ ar Gyllideb 2018-2020 yn barod a hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi am roi o’ch amser i wneud hynny.
Os nad ydych eisoes wedi rhoi eich barn, mae ‘na amser o hyd i chi ddweud wrthym ni be’ ‘da chi’n ei feddwl o’n cynigion i arbed £13 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae hwn yn swm sylweddol a hynny ar ben y toriadau o £52 miliwn sydd wedi eu gwneud yn barod ers 2008. Mae’r cynigion yn yr ymgynghoriad yn nodi sut yr hoffem wneud yr arbedion hyn ac rydym yn awyddus dros ben i glywed eich barn.
Gallwch gymryd rhan drwy ddilyn y dolenni isod
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Efallai y byddwch yn teimlo’n gryf am rai o’r cynigion ond nid eraill. Os felly gallwch roi eich barn ar y cynigion perthnasol a rhoi ‘ddim yn gwybod’ ar gyfer y gweddill. Neu, efallai y byddwch eisiau awgrymu rhywbeth sydd ddim yn rhan o’r ymgynghoriad, ac os felly gallwch lenwi’r blychau ‘sylwadau eraill’ .
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor yn ei gyflwyniad i’r ymgynghoriad: “Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddarparu’r gwasanaethau y mae pobl eu hangen ond gyda llai o arian. Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau anodd dros ben ac mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod i ni be’ ‘da chi’n feddwl o rai o’r opsiynau ar y bwrdd cyn i ni wneud hynny.”
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 30 Tachwedd 2017 gydag adroddiad yn mynd i’r Bwrdd Gweithredol ym mis Ionawr.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.