Mae cynghorau sir Wrecsam a Sir y Fflint wedi uno i helpu mwy o bobl ag anableddau dysgu i gael swyddi cyflogedig o ansawdd da.
Mae’r Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth newydd yn cael ei redeg gan dimau gwasanaethau cymdeithasol ar draws y ddwy sir, yn ogystal ag asiantaeth gyflogaeth arbenigol HfT Sir y Fflint.
Er bod llawer o bobl ag anableddau dysgu yn awyddus i weithio, dim ond 4.8% sydd mewn cyflogaeth â thâl ar hyn o bryd.
Mae’r ddau gyngor yn benderfynol o gynyddu cyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu, ac yn gofyn i gyflogwyr lleol helpu i wneud gwahaniaeth.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydyn ni yma i gefnogi cyflogwyr bob cam o’r ffordd, ac rydym yn cymryd amser i ddeall eu hanghenion busnes unigryw fel y gallwn eu helpu i ddod o hyd i’r pariadau swyddi gorau.”
“Gall cyflogi rhywun ag anabledd dysgu fod yn werth chweil iawn – mae yna lawer o fanteision busnes, a gallwch hefyd wneud byd o wahaniaeth i fywyd y person hwnnw.”
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol a Lles: “Ychydig iawn o bobl ag anableddau dysgu sydd mewn cyflogaeth â thâl, ac rydym am i’w potensial a’u talent gael eu cydnabod a’u dathlu.”
“I wneud hyn mae angen cefnogaeth busnesau lleol arnom. Mae’r Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth yma i helpu cyflogwyr i ddod o hyd i bobl ddibynadwy a gweithgar wrth feithrin gweithle cynhwysol.”
Mae’r gwasanaeth yn rhan o raglen ehangach sy’n cynnwys pob un o chwe chyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac fe’i hariennir drwy Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru.
Buddion i gyflogwyr
Gall hurio pobl ag anableddau dysgu fod o fudd i’ch busnes mewn sawl ffordd:
- Maen nhw’n aros yn eu rolau 3.5 gwaith yn hirach ar gyfartaledd, gan arbed amser ac arian i chi ar recriwtio a hyfforddi.
- Mae eu hurio yn rhoi hwb i enw da eich cwmni – mae cwsmeriaid yn gwerthfawrogi busnesau cynhwysol.
- Mae eu cyfraddau absenoldeb 62% yn is o’i gymharu â gweithwyr eraill.
- Mae 72% o gyflogwyr yn sgorio eu perfformiad yn gyfartalog, yn uwch na’r cyfartaledd, neu’n rhagorol.
Mae Cartref Gofal Oaks yn Shotton yn un o lawer o fusnesau lleol sy’n gweithio gyda HfT. Maen nhw’n cyflogi Jake, sy’n aelod gwerthfawr a phoblogaidd o’r tîm.
Dywedodd y rheolwr Sinead Fox: “Rydyn ni’n gwerthfawrogi Jake gymaint am yr hyn y mae’n ei gyfrannu i’n cwmni – hwyl, positifrwydd, parodrwydd i fynd yr ail filltir, ac agwedd wych tuag at waith sy’n disgleirio.
“Mae gweithio gyda darparwr cyflogaeth â chymorth fel HFT wedi bod yn broses werth chweil a hawdd, ac maen nhw wedi cefnogi’r gweithiwr a ni fel cwmni o’r cychwyn cyntaf.
“Ers i ni gyflogi Jake mae ein dewisiadau wedi newid, ac roeddem yn pryderu y byddai’n gostus pe bai angen unrhyw addasiadau, ond nid oedd angen i ni boeni – nid yw wedi costio dim yn ychwanegol a gyda chefnogaeth arbenigol gan yr hyfforddwr swyddi mae wedi bod yn daith lyfn.
“Maen nhw wedi ein cefnogi ni a Jake gyda holl hyfforddiant gorfodol y cwmni a mwy.”
Cymorth am ddim i fusnesau
Gall y Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth:
- Eich helpu i ddod o hyd i’r ymgeisydd iawn i ddiwallu eich anghenion busnes.
- Eich tywys chi a’r ymgeisydd trwy bob cam o’r broses hurio.
- Cefnogi’r gweithiwr newydd gyda sefydlu a hyfforddi.
- Eich cynghori ar wneud addasiadau rhesymol a gwneud cais am gyllid Mynediad i Waith.
- Darparu cefnogaeth barhaus i’ch busnes a’ch gweithiwr.
Sut i gymryd rhan
Os yw eich busnes wedi’i leoli yn Wrecsam neu Sir y Fflint, gallwch helpu drwy wneud y canlynol:
- Rhannu swyddi gwag – dweud wrthym am swyddi gwag sydd ar ddod a’r hyn rydych chi’n chwilio amdano.
- Dod yn hyrwyddwr – dweud wrth gyflogwyr eraill am eich profiad o weithio gyda’r Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth.
- Cynnig treialon gwaith neu brofiad gwaith – darparu lleoliadau i weld a yw ymgeisydd yn gweddu i’ch busnes, neu i’w helpu i feithrin sgiliau a phrofiad.
- Ymweliadau cynnal – gwahodd cyfranogwyr i’ch gweithle i ddysgu am eich busnes a’ch rolau.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Julia Hawkins, Rheolwr Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae Julia yma i’ch cefnogi, a gall drefnu ymweliad safle neu gael sgwrs achlysurol i drafod sut yr hoffech chi gymryd rhan.
Gallwch hefyd ffonio Julia Hawkins yn HfT ar 07795304758.
Disgrifiad o’r llun – Jake gyda Sinead Fox, rheolwr cartref gofal