Mae FOCUS Wales ar y rhestr fer fel yr wŷl orau ar gyfer talent newydd yn yr UK Festival Awards. Mae enillwyr y wobr yn y gorffennol yn cynnwys Liverpool Sound City a’r Dot to Dot Festival.
Mae’r ŵyl wedi cyrraedd y rhestr fer am ei gwaith parhaus i gefnogi cerddorion sy’n dechrau dod i’r amlwg, gan ddarparu platfform i artistiaid ddangos eu doniau i gwmnïau’r diwydiant cerddoriaeth a ffans newydd.
Mae cynhadledd gŵyl FOCUS Wales yn denu dros 200 o bobl o’r diwydiant cerddoriaeth o bob cwr o’r byd bob blwyddyn i roi cyngor ac arweiniad i gerddorion sy’n datblygu, a hynny am ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae FOCUS Wales yn dod â chymaint o ymwelwyr i leoliadau ar draws Wrecsam ac mae’n wych ei bod yn cael ei chydnabod fel hyn.”
Dwedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hon yn acolâd mawr i FOCUS Wales, sy’n rhoi Wrecsam yn gadarn ar y map fel lle i dalent gerddorol genedigol gael ei gydnabod ar y llwyfan rhyngwladol. Dwi’n dymuno pob lwc iddynt fis Rhagfyr”
Wedi’u cadarnhau yn barod at y flwyddyn nesa’ mae Martin Elbourne (Glastonbury), Anika Mottershaw (Bella Union), Bev Burton (Cambridge Folk Festival), Kaptin Barret (Boomtown Festival), Iggy Amazarray (Marshall Arts), Emma Zillman (Blue Dot Festival), Mar Sellars (Mar on Music, Canada), Adam Taylor (Mothership Group), Rebecca Ayres (Liverpool Sound City) ac Adam Ryan (The Great Escape).
Byddant yn cael clywed y canlyniad mewn seremoni yn Llundain ar 6 Rhagfyr.
Gallwch ddarganfod mwy am ddigwyddiad FOCUS Wales 2019 yma.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN