Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Da iawn Lenka! Disgybl o Wrecsam yw’r Enillydd Cyffredinol mewn Cystadleuaeth Greadigol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Da iawn Lenka! Disgybl o Wrecsam yw’r Enillydd Cyffredinol mewn Cystadleuaeth Greadigol
Busnes ac addysgPobl a lle

Da iawn Lenka! Disgybl o Wrecsam yw’r Enillydd Cyffredinol mewn Cystadleuaeth Greadigol

Diweddarwyd diwethaf: Mai 14, 2020 10:49 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Well done Lenka! Wrexham pupil is Overall Winner in Creative Competition
RHANNU

Cafodd Lenka Mbaye, disgybl o Ysgol Gynradd Parc Borras yn Wrecsam, ei choroni yn ddiweddar fel Enillydd Cyffredinol Cystadleuaeth Greadigol Show Racism The Red Card ar ôl i’w cherdd anhygoel ‘Racism Everywhere’ synnu’r beirniaid.

Mae Lenka yn aros i dderbyn iPad newydd sbon fel gwobr am ennill y gystadleuaeth ledled Cymru. Ar ôl canslo’r seremoni wobrwyo wreiddiol, cafodd seremoni ar-lein ei chynnal ddydd Mercher Mai 6 yn lle, fel sypreis i’r enillwyr a’r goreuon eraill.

Da iawn Lenka 👏👏👏 @BorrasPark https://t.co/PgFUYyvlyI

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) May 6, 2020

Mae Show Racsim The Red Card yn elusen wrth-hiliaeth addysgiadol arweiniol yn y DU a Chymru ac yn gweithio’n uniongyrchol gyda dros 22,000 o bobl ifanc ledled Cymru yn 2019.

Dyma ddarn byr o gerdd bwerus Lenka, Racism Everywhere:

“Different cultures and races mix really well
But sadly, at first glance you might not tell
Everyone deserves a proper chance
So please don’t judge them at first glance”

Cewch ddarllen cerdd gyfan Lenka ar wefan Show Racism The Red Card.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Dywedodd un o athrawon Lenka yn Ysgol Gynradd Parc Borras, Mr David Roberts: “Rydym i gyd mor falch o’r hyn mae Lenka wedi ei gyflawni eleni. Yma yn Ysgol Gynradd Parc Borras rydym wastad yn cefnogi’r gystadleuaeth yma ac mae’r plant i gyd yn cymryd rhan mewn o leiaf un o’r categorïau. Mae’r ffaith fod Lenka wedi ennill ei chategori yn gyflawniad anhygoel.

“Mae’n fy ngwneud yn hynod o falch ei bod wedi cael ei choroni yn enillydd cyffredinol y gystadleuaeth. Mae trin pawb gyda pharch yn rhan o ethos yr ysgol gyfan ac mae’r plant yn gwybod pa mor bwysig ydy hi i fod yn ‘barod, yn barchus ac yn ddiogel’ bob amser. Gobeithio fod y cyfnod hwn o gyfyngiadau ar symud am wneud i bawb ailystyried sut rydym yn trin eraill. Da iawn Lenka!”

Mewn neges fideo i Lenka, dywedodd ein Prif Weithredwr, Ian Bancroft: “Hoffwn ddweud llongyfarchiadau am dy gyflawniad anhygoel yn y gystadleuaeth Show Racism The Red Card. Mae’r ffaith mai ti yw Enillydd Cyffredinol y Gystadleuaeth Greadigol yn arbennig o wych i mi, gan fy mod wrth fy modd gyda barddoniaeth ac mae’n wych dy fod wedi mynegi dy safbwynt o fewn y ffurf honno. Gobeithiwn fod ein geiriau a negeseuon yn cyfrannu rhywfaint at gydnabod dy gyflawniad.”

Ychwanegodd Ian Roberts, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar: “Hoffwn ddweud diolch yn fawr am dy gerdd ardderchog yng nghystadleuaeth Show Racism The Red Card. Rwyf wedi darllen dy gerdd a dwi wedi cael fy siomi ar yr ochr orau gyda’r nifer o gwpledi sy’n odli a ddefnyddiaist yn dy farddoniaeth. Hefyd, rhaid diolch yn fawr i Ysgol Gynradd Parc Borras am ganiatáu Lenka a disgyblion eraill i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yma.”

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol free childcare Nodyn atgoffa – gofal plant di-dâl i weithwyr hanfodol
Erthygl nesaf Social Services Wrexham Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019-2020 (Drafft ar gyfer ymgynghoriad)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English