Mae Prifysgol Lerpwl wedi dadansoddi darganfyddiad Rhufeinig diweddar, gan roi cipolwg i ni ar hanes cyfoethog Wrecsam.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Fis Medi diwethaf, cafodd ingot plwm Rhufeinig a oedd hefyd yn cael ei alw’n ‘fochyn’ ei arddangos yn yr amgueddfa.
Daethpwyd o hyd i’r mochyn ger Yr Orsedd gan y canfyddwr Rob Jones, a roddodd wybod i’r swyddog darganfyddiadau lleol, gan ganiatáu archwilio’r gwrthrych pan roedd yn dal yn y ddaear.
Mae’r mochyn yn cynnwys enw Marcus Trebellius Maximus, llywodraethwr talaith Britannia rhwng 63 a 69 Oed Crist, yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Nero.
Wrecsam yw’r unig ran o Brydain lle mae arysgrif yn arddangos enw Marcus Trebellius Maximus wedi’i ddarganfod, felly denodd y darganfyddiad gyffro yn genedlaethol.
Roedd cloddio plwm ac arian yn rheswm sylweddol dros y goresgyniad ar Brydain o dan yr Ymerawdwr Claudius yn 43 Oed Crist. Rydym yn gwybod fod y Rhufeiniaid wedi manteisio ar yr adnoddau mwynau yn Sir y Fflint ac o bosibl Y Mwynglawdd, ond nid oes gennym dystiolaeth glir yn y safle hwnnw.
Mae’n ymddangos fod dadansoddiad Prifysgol Lerpwl o’r mochyn yn dangos ei fod yn dod o ffynhonnell leol yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Mae hyn yn golygu fod yr enw lle Rhufeinig a grybwyllir ar arysgrif Magul … yn safle mwyngloddio lleol, naill ai Ffrith neu Y Mwynglawdd.
Mae hefyd yn profi fod yr awdurdodau Rhufeinig yn mwyngloddio ac yn prosesu plwm, ac arian efallai, yn yr ardal yn y cyfnod Fflafaidd (cyn 69 oed Crist), llawer cynharach nac y credwyd yn flaenorol.
Gallwch ddysgu mwy am hanes lleol, mynd ar daith rithwir a gweld yr arddangosiad ‘Bywyd yn Ystod y cyfnod clo’ ar-lein drwy ymweld â gwefan amgueddfa Wrecsam.
Gallwch hefyd ddilyn yr amgueddfa ar Facebook a Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
CANFOD Y FFEITHIAU