Y llynedd gwnaethom gynnal cystadleuaeth i gael lluniau ar gyfer creu Calendr oedd yn dangos rhai o’r llefydd hardd o amgylch y fwrdeistref sirol.
Roedd y gystadleuaeth yn llwyddiannus iawn a gwnaethom dderbyn lluniau anhygoel a dynnwyd drwy gydol y flwyddyn o bensaernïaeth a mannau hardd o amgylch y fwrdeistref sirol a gymerwyd gan ffotograffwyr amatur. Gwnaethom gynhyrchu Calendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018 ac roedd ar werth ym mis Tachwedd, mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
“Cymaint yn fodlon cymryd yr amser”
Rydym wedi gorfod edrych ar lwyddiant y gystadleuaeth a’r ffaith bod cymaint ohonoch wedi bod yn fodlon cymryd amser i anfon eich ceisiadau am gopi personol o’r Calendr nad oedd mewn gwirionedd yn wobr oedd yn newid bywyd.
Rydych hefyd wedi gofyn a fyddwn yn cynnal y gystadleuaeth eto ac rydym yn falch o ddweud y byddwn ond mewn ffordd ychydig yn wahanol.
Eleni bydd yna un gystadleuaeth yn ystod Awst a Medi gyda’r un thema yn canolbwyntio eto ar yr holl harddwch a’r gorau a gynigir gan Wrecsam. Wedi’r cyfan mae gennym sawl ardal gydnabyddedig o harddwch naturiol eithriadol, mae tri o Ryfeddodau’r Byd yma, dau eiddo’r ymddiriedolaeth genedlaethol ac wrth gwrs y Draphont Ddŵr ym Mhontcysyllte. Megis dechrau yw hynny. Mae gennym y parciau gwledig hefyd, pensaernïaeth wych yn ein heglwysi a hen adeiladau, pontydd, camlesi ac wrth gwrs y sawl dyfrffordd sy’n llifo drwy’r fwrdeistref sirol. Ac mae gennym ni nifer o ddigwyddiadau yn yr awyr agored – megis yr Orymdaith Dydd Gŵyl Dewi, y Diwrnod Chwarae, ac O Dan y Bwâu – sy’n rhoi’r cyfle i bobol i dynnu lluniau da.
Bydd unrhyw elw o werthiant y Calendr unwaith eto yn mynd i gronfa elusen y Maer.
“Tynnu llun ar unrhyw adeg o’r flwyddyn”
Gellir tynnu’r lluniau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ond mae’n rhaid iddynt fod yn rhywle o fewn y fwrdeistref sirol. Bydd 13 o luniau yn cael eu cynnwys yng Nghalendr 2019 – un ar gyfer y clawr ac un ar gyfer pob mis o’r flwyddyn. Sylwer y bydd maint y lluniau fydd yn cael eu hargraffu yn 295mm x 295 mmm ac felly dylai lluniau gael eu torri i’r maint hwn neu’n ddigon mawr i gael eu torri i’r maint hwn.
Dylai pob llun a anfonir gynnwys lleiafswm cydraniad o 300 dpi ac mae’r fformat ffeil a dderbynnir yn Tiff, Psd, Eps, Jpeg, pdf cydraniad uchel.
Roedd y Cyng. John Pritchard, Maer Wrecsam yn croesawu’r newyddion y bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal eto: “Roedd yn syniad gwych i ddangos i bawb yr hyn sydd gennym i fod yn falch ohono yn Wrecsam. Pensaernïaeth hardd, golygfeydd gwych a’r hyn oedd yn dod drosodd oedd yr holl ddŵr! Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth olaf ac annog pawb i barhau i dynnu lluniau ac edrych allan pan fydd y gystadleuaeth yn agor ar gyfer cymryd rhan yn Awst.
Never miss a thing…follow us on Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT