Cynhyrchodd grŵp o fyfyrwyr Celf a Dylunio Lefel 2 o Goleg Cambria Iâl ddetholiad o ddyluniadau Nadolig ar gyfer arddangosfa ffenestr wrth fynedfa’r farchnad ar Stryt Fawr Wrecsam.
Creodd pob un o 24 aelod y dosbarth – dan arweiniad y tiwtoriaid Rachel Holian a Catriona Harvey – eu stensiliau addurniadau Nadolig unigryw eu hunain, tra bo’r dysgwr Charley Titley wedi dylunio coeden wedi’i haddurno â’r geiriau ‘Nadolig Llawen Wrecsam’ arni hi.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
“Gwnaeth y myfyrwyr waith gwych,” meddai Rachel.
“Roedden nhw’n falch o fod yn rhan o friff gweithio byw, ac yn falch o gael gweld eu dyluniadau wedi’u harddangos i bawb yn Wrecsam gael eu gweld.
“Roedd yr addurniadau i gyd yn wahanol ac yn edrych yn wych, fel y goeden a gafodd ei dylunio gan Charley.
“Rydyn ni’n gobeithio bod yr arddangosfa ffenestri yn dod â digon o Hwyl yr Ŵyl i’r dref a diolch i Dŷ Pawb a’r cyngor am eu cefnogaeth.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Wrecsam dros Adfywio Economaidd: “Mae’r arddangosfeydd yn edrych yn Nadoligaidd iawn ac rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr yn eu gwerthfawrogi yn ystod yr wythnosau nesaf.
“Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n rhan o’r prosiect hwn.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau yng Ngholeg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG