Mae Dydd San Ffolant yn prysur agosáu ar 14 Chwefror, ac er bod y diwrnod mwyaf rhamantus y flwyddyn yn ymwneud yn draddodiadol â dangos cariad tuag at bartneriaid, mae hefyd yn gyfle gwych i roi mwy o ofal i’r blaned hefyd.
Felly os ydych chi am ddangos cariad at eich amgylchedd, mae Cymru yn Ailgylchu wedi casglu awgrymiadau defnyddiol i’ch cael chi’n ailgylchu fel rhan o’ch rhamant. Dyma bedair ffordd o gymryd rhan…
Poteli persawr a phersawr eillio
Un o’r anrhegion mwyaf poblogaidd ar ddydd San Ffolant yw persawr. Os ydych chi’n derbyn potel o bersawr neu bersawr eillio ar Ddydd San Ffolant, cofiwch y gallwch ailgylchu’r botel pan fydd yn wag fel y gellir ei throi’n botel neu jar newydd.
Yn Wrecsam rydym yn casglu gwydr wrth ymyl y ffordd fel rhan o’n gwasanaeth ailgylchu wythnosol, felly cofiwch adael eich poteli ail-law yn eich blwch ailgylchu.
Blodau
Pwy sy’ ddim yn dwlu ar dusw newydd o flodau gan rywun annwyl? Os chi sy’n prynu, ceisiwch ddewis tusw gyda deunydd lapio cynaliadwy – mae digon o werthwyr blodau yn dewis papur lapio mwy cynaliadwy erbyn hyn, sy’n wych!
Er hyn, yn anffodus mae llawer o flodau hyfryd ddydd San Ffolant yn dal i gael eu lapio mewn seloffen plastig, ac nid ydym yn casglu hyn wrth ymyl y ffordd. Os oes gennych unrhyw ddeunydd lapio plastig mae nifer o siopau yn Wrecsam a fydd yn ei ailgylchu i chi. Edrychwch ar leoliadau ailgylchu Cymru yn Ailgylchu – teipiwch ‘bagiau plastig a deunydd lapio’, yna rhowch eich cod post i ddod o hyd i’ch lleoedd agosaf.
Pan fydd eich blodau wedi gwywo gallwch naill ai eu hailgylchu fel rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd (os ydych wedi tanysgrifio), gallwch eu hailgylchu yn un o’r canolfannau ailgylchu yn Wrecsam, neu gallwch eu hychwanegu at eich tomen compost os oes gennych un.
Neu os ydych chi’n teimlo’n greadigol gallech chi eu sychu a’u defnyddio fel addurn cartref ystyrlon, neu sychu’r petalau i’w defnyddio fel conffeti neu mewn prosiect crefft.
Cardiau ac anrhegion
Mae rhosod yn goch, mae fioledau’n las… ac ati, ac ati… rydych chi’n deall.
Wrth brynu cardiau a phapur lapio mae bob amser yn syniad da dewis rhai y gellir eu hailgylchu, oherwydd nid yw pob un yn anffodus.
Nid oes modd ailgylchu papur ffoil sgleiniog. Nid oes modd ailgylchu papur gyda glitr chwaith.
Mae’r rhan fwyaf o bapurau lapio sgleiniog eraill wedi eu lamineiddio, sy’n golygu nad oes modd eu hailgylchu nhw chwaith. Mae angen i chi hefyd ofalu i weld a oes gan y papur unrhyw ychwanegion plastig ac osgoi’r rhain.
Y newyddion da yw y dylai pob math arall o bapurau lapio a chardiau fod yn iawn i’w hailgylchu. Os ydych chi’n osgoi ffoil, glitr, papur wedi’i lamineiddio ac unrhyw ychwanegion plastig, dylech chi allu ailgylchu eich papur lapio a’ch cardiau pan fyddwch chi wedi gorffen gyda nhw.
Ond i fod yn onest, os oes gennych yr amser, beth am wneud eich cerdyn eich hun ar gyfer eich anwylyd? Gall fod yn llawer mwy ystyriol a phersonol rhoi cerdyn wedi’i wneud â llaw i rywun. Defnyddiwch eich creadigrwydd i ddod o hyd i wahanol eitemau o amgylch y cartref i’w addurno. Nid oes angen bob amser i chi wario arian ar bethau i ddangos eich cariad.

Bwyd
Ydych chi’n paratoi cinio rhamantus gartref? Mae bwytai mor brysur ar Ddydd San Ffolant, felly gall noson glyd gartre fod yn ddewis gwych.
Os ydych chi’n dewis coginio pryd o fwyd i’ch anwylyd gartref, cofiwch ailgylchu unrhyw wastraff bwyd sy’n codi wrth i chi wneud – esgyrn, plisgyn wyau, croen tatws ac ati. Os oes angen eich atgoffa’n gyflym o’r gwahanol bethau a all fynd yn eich cadi bwyd edrychwch ar hwn.
Neu os hoffech chi leihau’r amser rydych chi’n ei dreulio yn y gegin, mae tecawê yn ddewis gwych arall ar gyfer Dydd San Ffolant. Os ydych chi’n dewis pizza, gellir ailgylchu’r blwch cardfwrdd y daeth ynddo. Cofiwch sicrhau nad oes unrhyw grwst dros ben ynddo cyn ei roi yn y bin ailgylchu, a golchwch unrhyw botiau plastig o saws garlleg ac ailgylchu’r rheini hefyd.
Os ydych chi’n dewis tecawê Indiaidd neu Tsieineaidd, gall y cynwysyddion a’r potiau plastig y mae’r prydau hyn fel arfer yn dod ynddynt fod yn wych ar gyfer storio bwyd dros ben neu unrhyw eitemau bach sydd gennych yn gorwedd o amgylch y tŷ. Ond os oes gennych chi ddigon o flychau storio eisoes, gellir eu golchi allan a’u hailgylchu’n hawdd wrth ymyl y ffordd.
Os ydych chi’n gwneud eich tecawê eich hun – fel bargen bwyd San Ffolant o archfarchnad – bydd ambell beth gwahanol i’w ailgylchu. Mae cloriau cardfwrdd a deunydd pecynnu eraill yn syml i’w hailgylchu, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu unrhyw ‘ffenestri’ plastig seloffen o’r blwch ac ailgylchu hynny ar wahân. Dim ond golchi’r hambyrddau plastig a ffoil sydd ei angen eu rhoi yn yr ailgylchu, a chaniau cwrw a photeli gwin yn yr un modd.
Digwyddiad crefft ailgylchu ar ddod!
Dim ond rhai syniadau oedd hynny i ddangos sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd fel rhan o Ddydd San Ffolant, ond cofiwch, mae angen ailgylchu drwy’r flwyddyn gron.
Mae ein Tîm Strategaeth Gwastraff yn cynnal digwyddiad galw heibio yn ystod hanner tymor yn y cwrt bwyd yn Tŷ Pawb ar 27 Chwefror, 11am – 2pm. Mae croeso i chi ddod â’r teulu draw i ddysgu sut y gallwch ailgylchu eitemau diangen fel llyfrau yn grefftau creadigol.
Bydd y themâu yn cynnwys Dydd Gŵyl Dewi, y gwanwyn, Diwrnod y Llyfr a charu eich amgylchedd. Dewch draw i’n gweld ni os gallwch chi.
Am fwy o awgrymiadau ailgylchu gallwch fynd i’r dudalen Cymru yn Ailgylchu, ac am wybodaeth i’ch helpu i ddefnyddio’r gwasanaeth ailgylchu yn Wrecsam i’r eithaf edrychwch ar ein gwefan.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Manteisiwch ar y gwasanaeth ailgylchu wythnosol rydyn ni’n ei gynnig yn Wrecsam. Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl i fod yn well wrth ailgylchu, ond mae angen iddyn nhw ymuno â ni a defnyddio’u menter i ailgylchu gymaint ag y gallant. Yn anffodus, rydyn ni’n gwybod bod llawer o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu a gwastraff bwyd yn mynd i mewn i’r biniau sbwriel cyffredinol o hyd ac mae angen i ni wneud yn well.”
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.
Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?
Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.