Mae gwahoddiad i breswylwyr lleol i ddysgu mwy am y cynigion cyffrous ar gyfer canol dinas Wrecsam.
Mae cyfres o sesiynau galw heibio i’r cyhoedd yn cael eu cynnal dros y tair wythnos nesaf lle gall pobl ddysgu am y cynlluniau i adfywio’r Stryt Fawr – gan wella ei photensial i gynnal digwyddiadau, marchnadoedd stryd a diwylliant caffis, gan ategu ei adeiladau hanesyddol rhestredig yn yr ardal.
Mae’r cyngor hefyd yn edrych i gyflwyno isadeiledd gwyrdd gyda llwyni a choed, a dodrefn stryd newydd – gan wella’r ardal i bobl leol, busnesau ac ymwelwyr.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Rydym yn awyddus iawn i rannu’r cynlluniau hyn gyda chymaint o bobl ag sy’n bosib felly dewch i’n gweld.
“Rydym yma i ateb eich cwestiynau ac i wrando ar unrhyw bryderon neu syniadau sydd gennych, a bydd eich safbwyntiau yn ein helpu wrth i ni symud y prosiect ymlaen.
“Fel dinas fwyaf newydd Cymru mae’n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi a gwella canol y ddinas fel ei fod yn cynnig y profiad gorau posib a bydd rhoi bywyd newydd i’r Stryt Fawr yn gam ymlaen pwysig iawn.”
Mae yna 16 o sesiynau galw heibio, ac mi fydd swyddogion y cyngor ar gael i fynd drwy’r manylion, i ateb cwestiynau ac i roi adborth ar unrhyw bryderon neu sylwadau sydd gennych.
Sesiynau galw heibio i ymrwymo’r cyhoedd ynglŷn â’r Stryt Fawr
- Dydd Mawrth, 3 Hydref – 10am-12pm yn Eglwys Stryt yr Hôb LL11 1BG
- Dydd Mercher, 4 Hydref – 5:30pm-7:30pm yn Cwtch Wrecsam LL13 8HR
- Dydd Iau, 5 Hydref – 10am-12pm yn Eglwys Stryt yr Hôb LL11 1BG
- Dydd Gwener, 6 Hydref – 10am-12pm yn Eglwys Stryt yr Hôb LL11 1BG
- Dydd Sadwrn, 7 Hydref – 11am-1pm yn Eglwys Stryt yr Hôb LL11 1BG
- Dydd Llun, 9 Hydref – 2pm-4pm yn Eglwys Stryt yr Hôb LL11 1BG
- Dydd Mawrth, 10 Hydref – 2pm-4pm yn Eglwys Stryt yr Hôb LL11 1BG
- Dydd Mercher, 11 Hydref – 2pm-4pm yn Eglwys Stryt yr Hôb LL11 1BG
- Dydd Iau, 12 Hydref – 5:30pm-7:30pm yn Cwtch Wrecsam LL13 8HR
- Dydd Gwener, 13 Hydref – 2pm-4pm yn Eglwys Stryt yr Hôb LL11 1BG
- Dydd Sadwrn, 14 Hydref – 11am-1pm yn Eglwys Stryt yr Hôb LL11 1BG
- Dydd Llun, 16 Hydref – 8.30am-10am yn Tŷ Pawb LL13 8BB
- Dydd Mawrth, 17 Hydref – 8.30am-10am yn Tŷ Pawb LL13 8BB
- Dydd Llun, 16 Hydref – 8.30am-10am yn Tŷ Pawb LL13 8BB
- Dydd Iau, 19 Hydref – 8.30am-10am yn Tŷ Pawb LL13 8BB
- Dydd Gwener, 20 Hydref – 8.30am-10am yn Tŷ Pawb LL13 8BB