Dyma gyfle gwych i chi wella eich sgiliau mewn ystod o steiliau celf gwahanol gyda chymorth gan arbenigwyr.
Yn y fenter newydd a chyffrous yma, mae tWIG (Oriel Annibynnol Wrecsam) a Thŷ Pawb wedi dod ynghyd i gyflwyno cyfres o weithdai galw heibio cymunedol am ddim.
Bob prynhawn Mawrth trwy’r haf, byddwn yn cyflwyno sesiynau celf dan arweiniad tiwtor, gan ymdrin â sgiliau megis darlunio, technegau paentio a gwneud collage.
Mae’r gweithdai ar agor i bawb, o’r dechreuwr llwyr i’r arbenigwr!
Bydd tiwtoriaid profiadol tWIG wrth law i addysgu, helpu, llunio a rhannu technegau mewn awyrgylch ymlaciol a chyfeillgar.
Cynhelir pob sesiwn ar sail galw heibio felly does dim angen i chi drefnu lle ac nis oes angen i chi aros – felly beth am ddod draw i ymuno yn yr hwyl?
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Arweiniad i’r sesiynau
Gorffennaf 3 – Keith Evans – Gwneud Marciau
Bydd amrywiaeth eang o ddeunyddiau ac arwynebau darlunio yn cael eu darparu ac fe anogir y rhai sydd yn y gweithdy i arbrofi i wneud marciau mewn amrywiaeth o ffyrdd a chyfryngau.
Bydd Keith yn darparu arweiniad, cymorth a hyfforddiant fel y bo angen.
Mae croeso i ddechreuwyr llwyr ac arbenigwyr i ddod i roi cynnig ar wneud rhywbeth!
Gorffennaf 10 – Keith Evans – Paent
Byddwn yn darparu ystod o baent ac arwynebau i bobl roi cynnig arnynt. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu hannog i arbrofi gyda mathau gwahanol o gyfryngau, a gobeithio y byddant yn gallu datblygu un neu fwy o arbrofion mewn i rywbeth ystyrlon!
Bydd Keith yn arddangos y defnydd a hynodrwydd cyfryngau amrywiol, gan sôn am theori lliw, cymysgu ac ati fel y bo angen ac yn annog cyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau.
17 Gorffennaf – Jacqui Blore – Celf Gwerinol
Bydd Jacqui yn arddangos technegau syml er mwyn goresgyn y meddylfryd ‘Alla i ddim paentio’ ymysg dechreuwyr ac yn ysgogi’r rhai mwy profiadol i edrych eto ar eu gwaith.
Bydd yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau gan ddefnyddio llinell a siâp syml i greu gwaith mewn steil ‘celf gwerin’ i gynhyrchu lluniau syml, hwyliog sydd yn hawdd i’w hadnabod.
Bydd Jacqui hefyd yn arddangos dulliau syml o greu paentiadau heb frwsys trwy ddefnyddio celf gyda llinyn, technegau trosglwyddo syml a phrintio sylfaenol.
Gorffennaf 24 – Dawn McGuire – Gweadau
Bydd Dawn yn arddangos gwaith haniaethol syml, gan ddefnyddio lliw i greu awyrgylch ac effaith a sut i gynnwys gwead a phatrwm i greu naill ai gwaith cynrychioladol neu waith haniaethol. Bydd yn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau, i greu’r effeithiau hyn.
Beth bynnag yw lefel eich arbenigrwydd, bydd y sesiwn hon yn gwneud i chi feddwl a gweithio mewn dull gwahanol.
Gorffennaf 31 – Liz Metcalfe – Collage
Bydd Liz yn gweithio mewn paent a chyfrwng cymysg, gan gynnwys technegau collage a stampio i arddangos a helpu i greu ystod anhygoel o ddelweddau, o realaeth i waith cwbl haniaethol. Beth bynnag ydi’ch sgiliau, byddwch yn creu rhywbeth gwahanol gyda’r tiwtor ysbrydoledig yma.
Awst 7 – Keith, Liz a Jacqui – Arddangosfa
Bydd y sesiwn hon yn un amrywiol gan gynnwys pob un o’r elfennau uchod, pan fyddwn ni’n ceisio creu ystod o ddelweddau a fydd yn arwain at arddangosfa ddifyfyr.
Bydd cyfranogwyr o sesiynau blaenorol yn cael eu hannog i ddychwelyd i’r sesiwn hon yn ogystal ag aelodau newydd.
Sut i gymryd rhan
- Cynhelir y gweithdai bob dydd Mawrth o 1.00pm-3.30pm
- Maen nhw’n weithdai galw heibio am ddim – nid oes angen archebu, dim ond troi i fyny!
- Am fwy o wybodaeth, ffoniwch tWIG ar 01978 292093/07813845989 neu e-bostiwch twigwxm@gmail.com
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
Each i wefan Tŷ Pawb yma.
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB