Os ydych chi’n byw gyda, neu’n gofalu am rywun gyda chyflwr iechyd meddwl, mae cymorth ar gael gan lyfrgelloedd Wrecsam.
Mae Reading Well ar gyfer Iechyd Meddwl yn gasgliad o lyfrau sy’n canolbwyntio ar wybodaeth i’ch cefnogi os ydych chi’n dioddef o gyflwr iechyd meddwl cyffredin ac eisiau ei reoli, neu os ydych chi’n profi teimladau neu brofiadau anodd.
Dewiswyd y llyfrau gan weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sy’n byw gyda’r cyflyrau sy’n cael eu trafod.
Weithiau, mae’r llyfrau’n cael eu hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol, neu mae modd i chi fynd i’ch llyfrgell leol i fenthyg llyfr am ddim.
Mae rhagor o wybodaeth am y casgliad hwn a theitlau llyfrau defnyddiol ar wefan Reading Well.
Mae’r casgliad arbennig hwn ar gael o lyfrgelloedd Wrecsam, Brynteg a Rhos.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN