Bydd darnau arian o Gasgliad Bronington, casgliad o’r bymthegfed ganrif a gafodd ei ddarganfod yn ddiweddar, yn cael eu harddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd y darnau arian yn cael eu harddangos mewn lleoliadau amrywiol yn ardal Maelor gan roi’r cyfle i bobl leol weld eu treftadaeth eu hunain.
Cafodd 52 darn arian a modrwy saffir brydferth hynod o brin eu darganfod gan ddarganfyddwyr metel ger Is-coed rhwng 2012-2017. Roedd y casgliad wedi ei osod yn fwriadol yn y ddaear tua 1465 ac mae’n cynnwys darnau arian yn dyddio o deyrnasiad Edward I i Edward IV.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
- 20 Tachwedd 2017 – Canolfan Enfys Llannerch Banna 10am – 2.30pm
- 23 Tachwedd 2017 – Canolfan Dreftadaeth yr Eglwys Wen 3pm – 8pm
- 27 Tachwedd 2017 – Ysgol Bronington 2pm – 4pm
Mae’r daith yn rhan o brosiect ‘Yn gudd yn y Gororau’ Amgueddfa Wrecsam ac mae wedi ei hariannu gan brosiect Hel Trysor: Hel Straeon Cronfa Dreftadaeth y Loteri mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.