Ydych chi’n edrych i ailddatblygu eiddo?
Efallai eich cartref teuluol. Neu efallai eich bod wedi etifeddu eiddo a bellach yn bwriadu ei werthu neu ei osod.
Os felly, dylech chi ddarllen hwn…
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Trwy bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru gallwn wneud benthyciadau hyd at £25,000 ar gyfer pob uned hunangynhwysol i’r rheiny sy’n edrych i ailddatblygu eu heiddo.
Mae’r benthyciadau ar gael i unrhyw berchnogion tai – nid oes meini prawf arbennig sy’n rhaid i chi neu eich eiddo ei fodloni, er bydd ein swyddogion angen siarad gyda chi gyntaf i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys.
Mae’r cynllun benthyca ar gael trwy gydol y fwrdeistref sirol gyda rhagor o gyllid ar gael ar gyfer eiddo yng nghanol tref Wrecsam.
Mae rhai o’r eiddo yr ydym wedi gallu eu diweddaru a’u defnyddio unwaith eto trwy’r cynlluniau benthyca yn cynnwys partneriaeth lwyddiannus ddiweddar rhyngom ni a’r datblygwr eiddo lleol a chyn-filwr Shaun Stocker.
Gwybod am adeilad gwag?
Yn ogystal â gwneud defnydd o’r benthyciadau rydym eisiau i bobl roi gwybod i ni am unrhyw eiddo sydd wedi bod yn wag dros y tymor hir yn eich cymunedau.
Mae gallu gwneud eiddo gwag yn eiddo y gellir ei ddefnyddio eto yn golygu llawer o waith ac amser ond mae modd ei wneud – fel y gwelwyd y llynedd gyda tai gwag yn Rhiwabon a gallu defnyddio’r tai cymdeithasol mawr eu hangen unwaith eto.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Gwyddwn fod yna lawer o bobl sydd o bosib yn awyddus i wella neu ddiweddaru eu heiddo, un ai i ail werthu neu i’w gwella’n gyffredinol.
“Tra bod yn rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i dderbyn y benthyciad nid oes meini prawf arbennig ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sy’n edrych i ailddatblygu eu heiddo preifat.
“Gwyddwn hefyd fod adeiladau gwag yn bryder arbennig i breswylwyr, yn enwedig y rheiny sydd yn byw mewn ardaloedd yng nghanol y dref, ac mae rhoi gwybod i ni amdanyn nhw yn gam yn y pen draw at ailddatblygiad.
“Mewn rhai achosion mae adroddiadau wedi golygu bod rhai adeiladau na fyddem o bosib yn gwybod amdanynt wedi cael eu hailddatblygu er mwyn eu defnyddio unwaith eto.”
Os oes gennych ddiddordeb gweld os ydych yn gymwys ai peidio am gynllun benthyca, neu os ydych eisiau rhoi gwybod i ni am eiddo gwag, cysylltwch â’r tïm.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU