Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen DATGELU LLWYBRAU AR GYFER CYMALAU AGORIADOL TAITH PRYDAIN I FERCHED 2024
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > DATGELU LLWYBRAU AR GYFER CYMALAU AGORIADOL TAITH PRYDAIN I FERCHED 2024
Y cyngorArall

DATGELU LLWYBRAU AR GYFER CYMALAU AGORIADOL TAITH PRYDAIN I FERCHED 2024

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 3, 2024 4:10 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Tour of Britain
RHANNU

Erthygl Gwadd – British Cycling “Tour of Britain Women”

Heddiw gallwn gyhoeddi’r llwybrau ar gyfer dau gymal agoriadol Taith Prydain i Ferched 2024 yng Nghymru, cyn yr Ymadawiad Fawr yn y Trallwng mewn 34 diwrnod.

Bydd y cymalau agoriadol yn gweld rhai o brif reidwyr y byd yn herio rhai o ffyrdd a dringfeydd mwyaf eiconig Cymru, gan ragweld miloedd yn dod i’r strydoedd i groesawu’r ras.

Cymal 2: Wrecsam – Wrecsam (140.2km, 1,570m o ddringo)

Bydd ail gymal y ras yn dechrau ac yn gorffen ar Stryt Caer yng nghanol dinas Wrecsam gan ymweld â golygfeydd godidog yn Sir Ddinbych, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, gydag un sbrint pellach a dau ddarn Brenhines y Mynyddoedd ar hyd y ffordd.

Bydd y peloton yn teithio tua’r gogledd, allan o Wrecsam, gan groesi i Orllewin Swydd Gaer ar ôl 20km, lle mae’r llwybr yn codi ar y cyd â Bryniau Peckforton Hill, rhan o Grib Canolbarth Swydd Gaer.

Yna bydd y llwybr yn croesi’n ôl i Wrecsam, gan fynd trwy bentrefi Bangor-Is-y-Coed ac Owrtyn, cyn y sbrint yn Johnstown. Yna bydd y ras yn parhau gerllaw darn godidog o Gamlas Llangollen.

Bydd llai o ddringo ar gyfer y reidwyr ar y cymal hwn, fodd bynnag disgwylir tyrfa fawr ar Fwlch yr Oernant, sy’n cyrraedd pwynt allweddol y cymal gyda thua 30km i fynd.

Bydd y llwybr dilynol i lawr yn golygu taith gyflym i mewn i Wrecsam ar gyfer diweddglo’r cymal a diwedd siwrnai’r ras yng Nghymru, gan basio heibio’r Mwynglawdd a Rhostyllen, cyn y daith fer yn ôl dros y ffin i Warrington ar gyfer cymal tri.

Bydd cymal dau yn dechrau am 11:15, gan ragweld y reidwyr yn dychwelyd i Wrecsam ar gyfer diwedd y cymal am oddeutu 15:15.

Meddai Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio Cyngor Wrecsam, “Unwaith eto, rwy’n falch iawn o weld digwyddiad o bwysigrwydd cenedlaethol megis Taith Prydain i Ferched yn cael ei gynnal yn Wrecsam, gan roi cyfle i bobl weld y seiclwyr proffesiynol mewn cystadleuaeth fawr.

“Bydd y ras yn rhoi cyfle i nifer o bobl weld a chefnogi’r reidwyr, a fydd yng nghanol y dref ar gyfer dechrau a diwedd y cymal neu wrth iddynt basio heibio ein cymunedau. Dewch draw i ddangos eich cefnogaeth a rhoi croeso cynnes Cymreig iddynt.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Ras Taith Prydain, Rod Ellingworth, “Trwy weithio gyda’n partneriaid rydym wedi gallu cynllunio dau gymal heriol a chyffrous iawn yng Nghymru i agor y ras, gyda rhai dringfeydd eiconig a chyfle ar gyfer sbrint hefyd.

“Roeddem eisiau i Daith Prydain i Ferched arddangos ffyrdd a golygfeydd gorau sydd gan Brydain i’w gynnig, ac ar ôl treulio llawer o amser yn gyrru ar hyd y llwybrau, rwyf yn sicr ein bod wedi darparu hynny.

“Mae cadarnhau’r llwybrau mewn amser byr wedi bod yn her a hanner, ac roedd hyn ond yn bosibl diolch i gefnogaeth ein cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy’n haeddu clod mawr am eu hymrwymiad i’r ras a beicio merched yn fwy eang.”

Taith Prydain i Ferched 2024:

Cymal 1 – Dydd Iau 6 Mehefin 2024: Y Trallwng i Landudno

Cymal 2 – Dydd Gwener 7 Mehefin 2024: Wrecsam

Cymal 3 – Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024: Warrington

Cymal 4 – Dydd Sadwrn 9 Mehefin 2024: Manceinion Fwyaf

Rhannu
Erthygl flaenorol Pontcysyllte aqueduct Y bont Sy’n Gysylltu
Erthygl nesaf Pontcysyllte aqueduct and canal Y Bont sy’n Cysylltu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English