Eleni yw canfed blwyddyn yr Awyrlu Brenhinol sef awyrlu annibynnol cyntaf y byd, a byddwn yn dathlu hyn trwy ddyfarnu Anrhydedd Dinesig i Awyrlu Brenhinol Cymru i nodi’r achlysur.
Yn arddull traddodiadol Wrecsam rydym am gynnal dathliad mawr yng nghanol y dref y gall pawb ei fynychu am ddim. Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda mwstwr Awyrlu Brenhinol Cymru i Lwyn Isaf ac yna bydd arddangosiadau yn cael eu cynnal gan yr Awyrlu Brenhinol dan do ac yn yr awyr agored a llawer o weithgareddau ar gyfer pobl o bob oedran. Uchafbwynt y dydd fydd gwylio awyren cludo milwyr y Dakota eiconig yn hedfan drosodd. Cynhelir y digwyddiad ar 25 Awst felly cofiwch ei nodi yn eich dyddiadur!
I ni yn Wrecsam mae’r Dakota yn hynod o briodol gan mai awyren fel hon yr oedd David Lord, VC, DFC yn ei hedfan pan sicrhaodd ei ddewrder bod cyflenwadau hanfodol yn cael eu gollwng dros Arnem yn ystod yr Ail Ryfel Byd er bod ei awyren wedi’i difrodi ac ar dân ac yn y pen draw fe gollodd ei fywyd. Caiff ei ddewrder ef ei gydnabod ar blac coffa yn Neuadd Goffa Bodhyfryd.
Cynhelir y digwyddiad ochr yn ochr â’r Ŵyl Stryd ar 25 Awst a ddylai fod yn ddiwrnod i’w gofio!
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae hyn yn briodol iawn ar eu canmlwyddiant a gobeithiaf y bydd fy nghyd-gynghorwyr yr un mor gefnogol â mi.”
Gallwch ddarllen mwy am Anrhydedd Dinesig yr Awyrlu Brenhinol yma:
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL