Erthygl Gwadd – Menter Iaith Fflint a Wrecsam
Mae Gorymdaith Gŵyl Ddewi Wrecsam yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ers tro byd, ac mae’r dathliadau yn ôl unwaith eto ar gyfer 2025!
Eleni, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn trefnu dathliad ar ddydd Sadwrn, Mawrth 1af 2025, ac yn gwahodd plant a phobl ifanc, teuluoedd, ffrindiau, mudiadau, busnesau, sefydliadau ac yn wir y gymuned gyfan i ddathlu’r achlysur.
Bydd yr orymdaith yn ymgynnull o flaen Neuadd y Dref (Llwyn Isaf) o 10:45am cyn cychwyn yn brydlon am 11:00am dan arweiniad Band Cambria, gan deithio drwy’r dref cyn gorffen nôl ar Llwyn Isaf lle bydd cyfle i bawb gyd-ganu’r Anthem Genedlaethol a Chalon Lân dan arweiniad Andy Hickie.
Bydd cyfle hefyd eleni i fwynhau’r marchnad misol ar Sgwâr y Frenhines, ymuno mewn sesiwn grefft i’r teulu yn Tŷ Pawb yn y prynhawn a chodi arian at Eisteddfod Wrecsam.
Dywedodd y Cyng. Beryl Blackmore, Maer Wrecsam “Mae gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam yn un o ddigwyddiadau mwyaf lliwgar y flwyddyn. Mae’n gyfle gwych i ymgysylltu a’n diwylliant ac i glywed pobl yn siarad ac yn canu yn Gymraeg gyda’i gilydd. Mae’r balchder yng Nghymru ac yn Wrecsam yn amlwg bob tro , felly dewch ach baneri, gwisgwch genhinen neu genhinen pedr ac ymunwch yn y bwrlwm ar Fawrth 1af.”
Bydd croeso cynnes i bawb ar y diwrnod.
Mae’r dathliadau hyn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu ein Nawddsant. Rydym yn annog pawb i ddefnyddio’r hashnod #DewiWrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu lluniau, gwybodaeth a hanesion o’r digwyddiad drwy gydol y dydd.
Os oes gennych diddordeb mewn gwirfoddoli yn yr orymdaith cysylltwch â Ceri Ellett ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar 01352 744 040 neu e-bostio ceri@menterfflintwrecsam.cymru