Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam 2025
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam 2025
Pobl a lle

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam 2025

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 30, 2025 12:21 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam 2025
RHANNU

Erthygl Gwadd – Menter Iaith Fflint a Wrecsam

Mae Gorymdaith Gŵyl Ddewi Wrecsam yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ers tro byd, ac mae’r dathliadau yn ôl unwaith eto ar gyfer 2025!

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam 2025

Eleni, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn trefnu dathliad ar ddydd Sadwrn, Mawrth 1af 2025, ac yn gwahodd plant a phobl ifanc, teuluoedd, ffrindiau, mudiadau, busnesau, sefydliadau ac yn wir y gymuned gyfan i ddathlu’r achlysur.

Bydd yr orymdaith yn ymgynnull o flaen Neuadd y Dref (Llwyn Isaf) o 10:45am cyn cychwyn yn brydlon am 11:00am dan arweiniad Band Cambria, gan deithio drwy’r dref cyn gorffen nôl ar Llwyn Isaf lle bydd cyfle i bawb gyd-ganu’r Anthem Genedlaethol a Chalon Lân dan arweiniad Andy Hickie.

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam 2025

Bydd cyfle hefyd eleni i fwynhau’r marchnad misol ar Sgwâr y Frenhines, ymuno mewn sesiwn grefft i’r teulu yn Tŷ Pawb yn y prynhawn a chodi arian at Eisteddfod Wrecsam.  

Dywedodd y Cyng. Beryl Blackmore, Maer Wrecsam “Mae gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam yn un o ddigwyddiadau mwyaf lliwgar y flwyddyn.  Mae’n gyfle gwych i ymgysylltu a’n diwylliant ac i glywed pobl yn siarad ac yn canu yn Gymraeg gyda’i gilydd. Mae’r balchder yng Nghymru ac yn Wrecsam yn amlwg bob tro , felly dewch ach baneri, gwisgwch genhinen neu genhinen pedr ac ymunwch yn y bwrlwm ar Fawrth 1af.”

Bydd croeso cynnes i bawb ar y diwrnod.

Mae’r dathliadau hyn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu ein Nawddsant. Rydym yn annog pawb i ddefnyddio’r hashnod #DewiWrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu lluniau, gwybodaeth a hanesion o’r digwyddiad drwy gydol y dydd.

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam 2025

Os oes gennych diddordeb mewn gwirfoddoli yn yr orymdaith cysylltwch â Ceri Ellett ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar 01352 744 040 neu e-bostio ceri@menterfflintwrecsam.cymru

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam 2025
Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i gwrdd â'r cwmni o Wrecsam y tu ôl i raglen deledu ddiweddaraf y BBC Dewch i gwrdd â’r cwmni o Wrecsam y tu ôl i raglen deledu ddiweddaraf y BBC
Erthygl nesaf Tŷ Pawb i ddangos holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Tŷ Pawb i ddangos holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English