Talodd Cefnogwr Lluoedd Arfog Wrecsam, y Cynghorydd David Griffiths deyrnged i bawb fu’n gwasanaethu ac a aberthodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd wrth i Wrecsam gofio a dathlu 75 mlynedd ers diwedd y rhyfel.
Meddai: “Mae yfory yn ddiwrnod arbennig i Wrecsam, ac rydym yn cymryd amser i adlewyrchu ar y niwed anferthol achosodd yr Ail Ryfel Byd i’n dynion, merched, a phlant, a atebodd yr alwad i wasanaethu eu gwlad. Boed yn wasanaethu drwy weithio mewn ffatrïoedd neu ar y tir, magu plant bach yn ystod y cyfnod o ddogni bwyd neu drwy ymladd dramor, bu i bawb yn ystod y cyfnod hwnnw chwarae eu rhan, ac rydym yn cofio amdanynt i gyd heddiw ar y diwrnod arbennig hwn ac yn diolch iddynt am beth a wnaethant.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Unwaith eto rhaid i ni warchod ein gwlad, ond y tro hwn, rhag gelyn anweledig – y feirws, Coronafeirws, sydd wedi hawlio nifer fawr o fywydau ar draws y DU, ac sy’n dal i fod yn fygythiad i ni gyd. Rydym yn cael ein holi i aberthu ein rhyddid, ar wahân i wneud teithiau hanfodol, a’r rhai ohonom sy’n weithwyr allweddol. Nid oes raid i ni ymladd, ond yn hytrach rhaid i ni aros adref. Rwy’n annog pob un ohonoch i goffau ac i ddathlu Diwrnod VE 2020 drwy aros gartref, a chofio nad ni yw’r unig genhedlaeth i fod wedi cael cyfyngiadau ar ein rhyddid. Diolch i chi gyd am gymryd yr amser i gofio o’ch cartref.
Diwrnod VE yn Wrecsam 1945
Pan ildiodd Yr Almaen ar 8 Mai 1945, teithiodd newyddion yn gyflym, ac yn Wrecsam derbyniwyd y newyddion gyda llawenydd a thristwch. O’r diwedd roedd y rhyfel ar ben, ond byddai sawl un na fyddent yn dychwelyd at eu teuluoedd ac at y rhai oedd yn annwyl iddynt. Roedd milwyr yn dal i fod dramor, a byddai’n wythnosau a misoedd cyn y gallent ddychwelyd.
Fodd bynnag, cafwyd dathliadau a threfnwyd partïon stryd ar draws y fwrdeistref sirol. Dyma lun o Erw Las sydd wedi ei gyfrannu’n garedig gan Grŵp Hanes Wrecsam – sy’n rhedeg tudalen Facebook ddiddorol iawn, os hoffech fynd i weld.
A dyma un o Jarman Avenue a Ffordd Bennions gan Sheila Reynolds, sydd hefyd yn aelod o grŵp Facebook Hanes Wrecsam.
I sawl plentyn, dyma’r parti cyntaf iddynt fynychu erioed!
Y Neuadd Goffa – Teyrnged Diwrnod VE i bawb a gollodd eu bywyd
Mae’r Neuadd Goffa yn esiampl brin o gofeb leol a ysbrydolwyd gan y teimlad y dylai’r dref goffrau’r rheiny a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd.
Ar y dechrau, cyfeiriwyd ati fel Neuadd Goffa’r ‘Victory’ a chodwyd swm sylweddol o arian tuag ati. Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn fawreddog, ac yn cynnwys oriel gelf, neuadd gyngerdd, neuadd ddawns, ystafell gyfarfod a chysegrfan. Fodd bynnag, y broblem oedd yr her o gychwyn y prosiect, o ystyried cyfyngiadau adeiladu, diffyg deunyddiau adeiladu, a disgwyliadau afrealistig o ran faint o arian y gellid ei godi a beth fyddai cost codi neuadd o’r fath.
Y cynllun oedd adeiladu’r neuadd yn fras lle mae’r swyddfa sortio post ar hyn o bryd, gyda mynediad da at yr orsaf drenau; ond agorodd y Coleg Technegol a neuadd William Aston, ac roedd hynny’n golygu na ellid bwrw ymlaen â’r cynlluniau hynny. Roedd gwahaniaeth barn hefyd o safbwynt a oedd yn iawn gwario’r arian ar neuadd pan oedd angen cartrefi ar y rhai oedd wedi bod yn ymladd, ac a ddylid derbyn arian gan y cyngor i bontio’r gwahaniaeth rhwng yr arian a godwyd a’r swm oedd ei angen. Yn y pen draw roedd rhaid newid y cynlluniau i fodloni realiti, ac yn y diwedd, agorwyd y neuadd yn swyddogol yn hwyr ym mis Medi 1957. Symudwyd cofeb yr Awyrlu Brenhinol i’w le ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Dyma’r gofeb yn y neuadd i bawb a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r neuadd yn dal i gael ei defnyddio heddiw, ac yn 2018 cafodd ei hailwampio er mwyn nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Codwyd cofebau ym mhob rhan o’r fwrdeistref sirol fel teyrnged, a dyma ychydig ohonynt:
Mae llawer yn mynd ymlaen ar draws y sir i ddathlu ac i gofio Diwrnod VE a dyma 10 ffordd y gallwch gymryd rhan o ddiogelwch eich cartref.
1. Cymryd rhan mewn dau funud o dawelwch (11am)
Fe fydd yna ddau funud o dawelwch ar draws y wlad am 11am i gofio’r rhai a aberthodd eu bywydau neu fu’n byw drwy’r rhyfel.
Bydd nifer ohonom yng Nghyngor Wrecsam yn cymryd rhan. Cymerwch ran os allwch chi.
2. Cynnal parti â thema Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gydag aelodau o’ch aelwyd
Mae Llywodraeth Y DU wedi creu canllaw defnyddiol a hwyliog, sydd yn cynnwys ryseitiau, gemau, posteri, byntin a
gweithgareddau creadigol eraill!
3. Ymunwch â ffrwd byw Y Lleng Brydeinig Frenhinol (11.15am)
Ewch i wneud paned o de ac ymunwch a’r Lleng am ddarllediad ffrwd byw 80 munud o hyd – rhannu straeon ac atgofion gan y rhai a wasanaethodd ac a aberthodd yn ystod y rhyfel, yn ogystal â chydnabod anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu heddiw.
4. Dysgu’r Lindi Hop (12pm)
Dysgwch y Lindi Hop gyda gwers dawns fyw English Heritage. Bydd Nancy Hitzig yn eich helpu i ddysgu’r ddawns oedd yn boblogaidd yn ystod y rhyfel. Cofrestrwch rŵan!
5. Gweddnewidiad o’r 1940au (2pm)
Mwynhewch weddnewidiad wedi’i ysbrydoli o gyfnod yr ail ryfel byd gyda thiwtorial ar-lein gan English Heritage!
6. Gwrandewch ar anerchiad Winston Churchill (3pm)
Gwrandewch ar anerchiad gwreiddiol Churchill i’r wlad sy’n cael ei ddarlledu ar y BBC am 3pm ddydd Gwener. Felly, codwch wydr neu baned i nodi’r achlysur!
7. Ewch ar wefan Amgueddfa Ryfel Imperialaidd
Yng Nghanolfan Fuddugoliaeth yr Amgueddfa mae cynnwys diddorol iawn am ddigwyddiadau haf 1945 a thu hwnt – yn cynnwys casgliadau personol am Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gan y bobl oedd yno.
8. Gwyliwch yr hanesydd Dan Snow (4pm)
Gwyliwch YouTube yn fyw wrth i Dan Snow ein tywys drwy’r digwyddiadau wrth iddynt ddigwydd yn 1945.
9. Gwyliwch neges Y Frenhines ar y teledu (9pm)
Bydd Ei Mawrhydi’r Frenhines yn annerch y genedl am 9pm – yr union adeg y rhoddodd ei thad, Brenin George VI, anerchiad ar y radio yn 1945.
10. Cymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol i gyd-ganu ‘We’ll Meet Again’
Ymunwch â’ch cymdogion ar stepen eich drws i gymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol i gyd-ganu ‘We’ll Meet Again’.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19