Dim ond dau fis yn unig sydd i fynd nes bydd gwaharddiad ar werthu neu gyflenwi cynhyrchion fêpsuntro yn y DU yn dod i rym, o 1 Mehefin 2025.
Mae’n cynnwys fêps untro sydd â nicotin ynddynt a’r rheini nad oes ynddynt unrhyw nicotin.
Gweithredwch nawr. Newidiwch i gynhyrchion sy’n gallu cael eu hailddefnyddio, yn barod ar gyfer y gwaharddiad.
Eitemau trydanol yw fêps, boed yn fêps untro neu’n rhai y gellir eu hailddefnyddio. Os ydych chi’n gwerthu fêps, rhaid ichi gynnig gwasanaeth ailgylchu ‘cymryd yn ôl’ sy’n golygu eich bod yn cymryd yn ôl fêps a darnau fêps (megis podiau wedi eu defnyddio, coiliau neu fatris) sy’n cael eu dychwelyd gan gwsmeriaid er mwyn eu hailgylchu.
Mae gwaredu fêps mewn ffordd amhriodol yn creu risg o dân. Dim ond mewn biniau fêps arbennig y dylid gwaredu fêps, a dylid casglu’r biniau’n rheolaidd i’w hailgylchu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at fanwerthwyr bach a chanolig ledled Cymru y nodwyd eu bod yn gwerthu neu’n cyflenwi fêpsuntro, ond mae’r gwaharddiad yn berthnasol i unrhywun sy’n gwerthu fêpsuntro ledled y DU.
Mae canllaw i fusnesau ar gael gan www.llyw.cymru/fepsuntro