Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Menter gymunedol newydd Benthyca a Thrwsio yn dod i Tŷ Pawb, Wrecsam, yn fuan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Menter gymunedol newydd Benthyca a Thrwsio yn dod i Tŷ Pawb, Wrecsam, yn fuan
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Menter gymunedol newydd Benthyca a Thrwsio yn dod i Tŷ Pawb, Wrecsam, yn fuan

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 22, 2025 2:18 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Menter gymunedol newydd Benthyca a Thrwsio yn dod i Tŷ Pawb, Wrecsam, yn fuan
RHANNU

Erthygl Gwadd – Refurbs

Diolch i arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Refurbs a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn falch o gyhoeddi y bydd Benthyca a Thrwsio yn dod i Tŷ Pawb yn fuan ……

Bydd Benthyca a Thrwsio, y fenter gyntaf o’i bath yng ngogledd Cymru, yn cael ei lansio yng nghanol Wrecsam, gyda’r nod o helpu pobl leol i gael gafael ar eitemau bob dydd mewn ffordd fwy hwylus a chynaliadwy. Trwy ymweld â Benthyca a Thrwsio gall pobl fenthyca teclynnau, offer, ac offer chwaraeon am dâl bach—gan arbed arian, lleihau gwastraff, a threuliant diangen.

Bydd sesiynau trwsio rheolaidd yn cael eu trefnu, lle gall pobl ddod ag eitemau o’r cartref sydd wedi torri er mwyn iddynt gael eu trwsio am ddim, yn ogystal â dysgu am y gwaith trwsio gan wirfoddolwyr medrus. Bydd cyfle i fod yn greadigol hefyd yn y gweithdai uwchgylchu a fydd yn dangos sut i drawsnewid hen ddefnyddiau yn eitemau newydd a defnyddiol. 

Nid arbed arian yn unig yw pwrpas y fenter hon—mae hefyd yn ceisio dod â phobl at ei gilydd. Bydd sesiynau a gweithdai trwsio yn dod ag unigolion ynghyd, a’u hannog  i rannu sgiliau gan feithrin teimlad cryfach o gymuned. Yn hytrach na phrynu teclynnau neu offer newydd sydd ddim yn cael eu defnyddio am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, bydd yn bosibl i bobl fenthyca eitemau pan mae eu hangen arnynt. Yn hytrach na chael gwared ar eitemau, bydd cyfle i ddysgu sut i’w trwsio a’u hailddefnyddio, gan ymestyn oes eitemau bob dydd a lleihau’r gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. 

Nod Benthyca a Thrwsio yw helpu pobl i wneud newidiadau gwirioneddol fydd yn eu helpu i arbed arian ac o fudd i’r blaned. Trwy leihau’r galw am nwyddau newydd, mae’r fenter yn lleihau allyriadau CO₂ a’r defnydd o ddefnyddiau crai, gan gael effaith wirioneddol ar gadwraeth amgylcheddol. 

“Mae Benthyca a Thrwsio yn fwy na gwasanaeth benthyca—mae’n gyfle i ddysgu a rhannu. Mae’n rhaid i bob newid ddechrau’n lleol, ac rydym yma i helpu i roi’r adnoddau a’r sgiliau mae eu hangen ar bobl i fyw’n fwy cynaliadwy,” dywedodd Stewart Platt, Pennaeth Gwasanaethau Masnachol Refurbs ar ran Benthyca a Thrwsio

Mae amserlen lawn o sesiynau a gweithdai trwsio, a chyfleoedd benthyca eisoes wedi’u trefnu, ac mae Benthyca a Thrwsio yn edrych ymlaen i ddod yn ganolbwynt bywiog ar gyfer byw’n fwy cynaliadwy. Mae pobl leol yn cael eu hannog i gymryd rhan drwy wirfoddoli, benthyca eitemau, a dysgu sgiliau newydd.  

Mae Benthyca a Thrwsio yn ganlyniad ymdrech gydweithredol rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Benthyg Cymru, Caffi Trwsio Cymru, Lend Engine, Groundwork Gogledd Cymru a Refurbs, a gwirfoddolwyr cymunedol.

I gael rhagor o wybodaeth am Benthyca a Thrwsio, neu i wirfoddoli, cysylltwch â: info@lendandmend.org.uk neu dewch o hyd iddynt ar Facebook @LendandMendTyPawb.

TAGGED:Benthyca a Thrwsio
Rhannu
Erthygl flaenorol Llwybr Cwningen Pasg Wrecsam yn dod i Ganol y Ddinas y mis hwn! Llwybr Cwningen Pasg Wrecsam yn dod i Ganol y Ddinas y mis hwn!
Erthygl nesaf Dau fis i fynd nes bydd y gwaharddiad ar fêps untro yn dechrau Dau fis i fynd nes bydd y gwaharddiad ar fêps untro yn dechrau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English