Ers 2016 mae gan sir Wrecsam nifer o breswylwyr gwlanog wedi’u gwasgaru o amgylch y lle i bobl leol a phreswylwyr ddod o hyd iddynt fel rhan o Lwybr Defaid Wrecsam. Y newyddion cyffrous i’r ddiadell yw bod 11 o ddefaid newydd yn awr wedi’u ymuno a’r 23 gwreiddiol.
Mae rhagor o fusnesau o bob rhan o’r ardal wedi ymuno â ni a Phartneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam i noddi a dylunio eu defaid eu hunain i fod yn rhan o’n teulu o 34 o ddefaid yn Wrecsam. Mae’r artist lleol Ellie Ashby wedi bod yn helpu i gynhyrchu’r defaid gorffenedig gyda mewnbwn creadigol gan bob busnes a sefydliad.
Mae’r defaid newydd yn ychwanegu at wynebau cyfarwydd megis Doris o Foras, Angelina, Baali a Lady Baa Baa er mwyn annog pobl i barhau i ymweld a’r defaid yn eu hardaloedd.
Mae mapiau ar gael i’w lawrlwytho ar wefan y Bartneriaeth Twristiaeth www.thisiswrexham.co.uk/wrexhamsheep, neu maent ar gael o Ganolfan Groeso Wrecsam neu o’r amryw o leoliadau sy’n rhan o’r llwybr.
“Tynnwch luniau gyda’r defaid”
Rydym yn annog ymwelwyr i dynnu lluniau ohonynt eu hunain gyda’r defaid a’u rhoi nhw yn y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #wrexhamsheep. Mae gan y defaid hefyd eu cyfrif Twitter eu hunain @wrexhamsheep!
Mae enwau’r defaid newydd a’u lleoliadau fel a ganlyn:
- Dr Mutton a Nurse Lamb – Ysbyty Yale Spire, Parc Technoleg Wrecsam
- Bedwyr – North Wales Beds, Gwersyllt
- Baawyn – Carchar Berwyn
- Lewis – Siop Fferm Lewis
- Blodwyn – Coleg Cambria, Campws Iâl
- Sheepy McSheep Face – The Fat Boar, Wrecsam
- Leonard – Leonard Cheshire Can Do (yn Llyfrgell Wrecsam)
- Merlin – Gwesty Rossett Hall, Rossett
Marky ac Arty – Tŷ Pawb/ Arcêd y De, Wrecsam
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI