Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Defnyddiwch y botwm bach yma i gyfieithu, darllen a gwrando ar wybodaeth yn haws…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Defnyddiwch y botwm bach yma i gyfieithu, darllen a gwrando ar wybodaeth yn haws…
Y cyngor

Defnyddiwch y botwm bach yma i gyfieithu, darllen a gwrando ar wybodaeth yn haws…

Diweddarwyd diwethaf: Awst 16, 2022 2:29 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Screengrab of Wrexham Council news blog home page
RHANNU

Efallai y byddwch chi wedi sylwi ar yr eicon bach yma yng nghornel uchaf yr ochr dde ar wefan Cyngor Wrecsam a’r blog newyddion yn ddiweddar (mae’n edrych fel person bach â’i freichiau ar led).

Cynnwys
  • Rhowch gynnig arno fo
    • Cyfieithu testun
    • Gwrando ar destun
    • Chwyddo testun
  • Pam mae hyn yn bwysig?
  • Dwedwch wrth eich teulu a’ch ffrindiau

The ReachDeck icon

Felly beth mae’n ei wneud?

Rydym ni’n falch o gyhoeddi ein bod wedi ychwanegu cymorth cyfieithu, darllen a llafar gyda bar offer ReachDeck, sy’n helpu i wneud gwybodaeth ar-lein am wasanaethau’r Cyngor ar gael yn haws i bawb.

Rhowch gynnig arno fo

Cliciwch neu bwyso’r eicon bach. Bydd hyn yn lansio bar offer ReachDeck ar frig eich sgrin.

Cyfieithu testun

ReachDeck translate icon

I gyfieithu testun, cliciwch ar yr eicon ‘A’ sgwâr ac yna dewiswch yr iaith rydych chi ei heisiau o’r rhestr.

Tan rŵan, dim ond yn Gymraeg ac yn Saesneg ydym ni wedi rhannu gwybodaeth, ond bellach, gallwch ddarllen ein tudalennau gwe bron yn unrhyw iaith – yn cynnwys Pwyleg, Portiwgaleg ac Wcreineg.

Gwrando ar destun

ReachDeck listen icon

I glywed testun yn cael ei ddarllen, cliciwch ar eicon y ‘bys’ (mae’n edrych fel bys yn pwyso botwm) a llusgwch eich llygoden dros unrhyw destun. Ar ddyfais sgrin gyffwrdd, bydd yn rhaid i chi glicio ar y testun i’w glywed.

Gallwch hefyd ddewis unrhyw destun ar y dudalen a’i lawrlwytho fel ffeil MP3 (gan ddefnyddio’r eicon ‘MP3’) er mwyn gwrando arno wedyn.

Chwyddo testun

Defnyddiwch y botwm bach yma i gyfieithu, darllen a gwrando ar wybodaeth yn haws…

Os cliciwch chi ar eicon y ‘chwyddwydr’ (gydag ‘A’ yn y canol), bydd y testun yn cael ei chwyddo wrth gael ei ddarllen.

ReachDeck help icon

I gael gwybod mwy, cliciwch ar eicon y marc cwestiwn (?) i ddarganfod beth mae pob nodwedd ar y bar offer yn ei wneud.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae’r Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Cydlyniant Cymunedol a Chydraddoldeb, yn dweud:

“Ledled y byd, mae gan un o bob saith o bobl anabledd, a gallent brofi rhwystrau ar-lein.

“Er enghraifft, gallai person sydd â nam ar y golwg gael trafferth darllen testun, a gallai rhywun ag anabledd gwybyddol ei chael yn anodd darllen gwybodaeth ar dudalen we orlawn.

“Gall iaith hefyd fod yn rhwystr, ac mewn cymuned amrywiol mae’n bwysig darparu gwybodaeth mewn cymaint o ieithoedd â phosib’… felly rydw i’n falch iawn ein bod wedi gallu mabwysiadu’r dechnoleg yma.”

Mae’r Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol TGCh a Gwasanaethau i Gwsmeriaid, yn dweud:

“Gall rhai sy’n ymweld â’n gwefan a’n blog newyddion rŵan ddewis gwrando ar y cynnwys, cael gwared â chynnwys sy’n tynnu sylw a chyfieithu ein tudalennau gwe i dros 100 o ieithoedd.

“Bydd bar offer ReackDeck yn helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar yr un wybodaeth a gwasanaethau ar-lein, felly helpwch ni i ledaenu’r neges.”

Dwedwch wrth eich teulu a’ch ffrindiau

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd ddim yn siarad Cymraeg na Saesneg, neu’n cael trafferth darllen testun ar sgrin oherwydd nam, rhowch wybod iddyn nhw am y nodwedd fach ddefnyddiol rydym ni wedi’i hychwanegu i’n gwefan.

Anogwch nhw i roi cynnig arni.

Rhannu
Erthygl flaenorol Keep safe online Cadw plant yn ddiogel ar-lein
Erthygl nesaf bellevue bandstand Mae’r bleidlais ar agor! Mae dau o barciau Wrecsam wedi’u henwebu ar gyfer cystadleuaeth Hoff Barciau’r DU

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English