Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ni fydd y Cyngor “yn meddwl ddwywaith” cyn cymryd camau gorfodi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ni fydd y Cyngor “yn meddwl ddwywaith” cyn cymryd camau gorfodi
Y cyngor

Ni fydd y Cyngor “yn meddwl ddwywaith” cyn cymryd camau gorfodi

Diweddarwyd diwethaf: Medi 20, 2019 11:13 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Ni fydd y Cyngor “yn meddwl ddwywaith” cyn cymryd camau gorfodi
RHANNU

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi llwyddo i erlyn asiant gosod a landlord yn ddiweddar am beidio cydymffurfio â rheolau a rheoliadau sy’n ymwneud ag un o’u heiddo.

Cafodd landlord preifat yn Wrecsam ei erlyn gan y cyngor am weithredu tŷ amlfeddiannaeth didrwydded (HMO).

Yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddoe, roedd y landlord Jane Sabio – oedd wedi pledio’n euog mewn gwrandawiad cynharach – wedi derbyn dirwy o £5,000 gyda chostau o £1,697 a £170 o ordal dioddefwr hefyd.

Roedd swyddog o’n tîm Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai wedi canfod yr HMO didrwydded yn ystod archwiliad ar ôl edrych i mewn i gwyn o ganlyniad i ddiffyg atgyweiriadau.

Roedd yr asiantaethau gosod tai Countrywide, sy’n masnachu fel Beresford Adams hefyd wedi pledio’n euog i nifer o dorri rheolau yn yr un eiddo, gan gynnwys mesurau diogelwch tân annigonol a methu cyflwyno tystysgrif diogelwch trydanol i Gyngor Wrecsam.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys yr Ynadon Wrecsam yn gynharach y mis hwn, cafodd Countrywide ddirwy o £22,500 a £107 o ordal dioddefwr a £2,819 o gostau.

“Gweithio’n rhagweithiol gyda landlordiaid ac asiantaethau gosod tai”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r Cyngor yn mynd ati’n rhagweithiol i gydweithio a landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i’w helpu nhw ac er mwyn codi safonau ar gyfer tenantiaid.

“Fodd bynnag, os ydynt yn dewis peidio â chydweithredu a chydymffurfio gyda’r gofynion cyfreithiol, ni fyddwn yn meddwl ddwywaith ynglŷn â chymryd camau gweithredu, fel y mae’r achos diweddar yn ei ddangos.”

Mae’r rhan fwyaf o landlordiaid ac asiantaethau gosod tai yn sicrhau bod HMOs yn cael eu trwyddedu a’u cynnal yn briodol, ond os bydd eich landlord neu asiantaeth gosod tai yn methu cael trwydded HMO neu gynnal yr atgyweiriadau angenrheidiol a gwneud trefniadau diogelwch tân digonol, gallwch gysylltu â’r tîm Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai drwy e-bost yn HealthandHousing@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 01978 292040.

Rydym yn cadw rhestr o HMOs a drwyddedir ar hyn o bryd ar ein gwefan, a hefyd yn darparu gwybodaeth ar beth yw HMO a sut y gallant gael eu trwyddedu.

Rhannu
Erthygl flaenorol Derbyniadau ysgolion uwchradd a nosweithiau agored Derbyniadau ysgolion uwchradd a nosweithiau agored
Erthygl nesaf Gwyliwch Gwpan Rygbi'r Byd yn Tŷ Pawb! Gwyliwch Gwpan Rygbi’r Byd yn Tŷ Pawb!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English