Ei waith beunyddiol yw gyrru fan Gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam, ond wedi chwarae pêl-droed yn ei amser hamdden ers hanner can mlynedd, mae David Bithell wedi’i ddethol i chwarae i Gymru.
Efallai bod ei bengliniau a’i fferau wedi gweld dyddiau gwell ar hyd yr hanner can mlynedd yna, ond does dim yn ei atal rhag chwarae pêl-droed cerdded.
Dechreuodd David chwarae pêl-droed cerdded tua deunaw mis yn ôl, gan ymuno â Brymbo Lodge cyn symud i Brickfield, sy’n chwarae yng Nghynghrair Gogledd Cymru ac yn cystadlu mewn amryw dwrnameintiau lleol.
Wrth sôn am gael ei ddethol am dreial â Chymru, dywedodd David: “Ym mis Awst 2024 fe ges i wahoddiad i dreial Carfan Pêl-droed Cerdded Cymru yn Llanidloes ac roeddwn i’n ddigon ffodus o gael fy nethol yn y garfan hyfforddi a fyddai’n cwrdd ym mis Medi.
“Wedi hynny, fe ges i fy nethol yn y garfan ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr a gaiff ei chwarae ddiwedd mis Hydref. “Fe fydda i’n mynd i sesiynau hyfforddi bob mis wedi hynny – mae’r un nesaf yn y Barri a bydd un arall yn Wrecsam yn y Flwyddyn Newydd.”
Mae David yn edrych ymlaen at flwyddyn dda o deithio’r byd ac yntau’n hedfan i Bortiwgal ym mis Chwefror, Sweden ym mis Gorffennaf at gyfer Cwpan y Byd ac yna bydd yn mynd i Gwpan y Byd yn Awstralia yn 2026.
Pob hwyl i David a thîm Cymru.