Ydych chi wedi archwilio phyllau plwmna a parc gwledig hardd y Mwynglawdd?
Mae Groundwork Gogledd Cymru yn rhedeg rhai digwyddiadau am ddim i oedolion a phlant yr wythnos nesaf i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr ardal wych hon o hanes a bywyd gwyllt.
Os nad ydych erioed wedi bod yno, mae’r safle yn lle gwych i gael cipolwg diddorol i hanes lleol. Yn yr amgueddfa gallwch archwilio olion yr ardaloedd prosesu plwm o’r 18fed a’r 19eg ganrif a’r peiriandy, y peiriant weindio a’r boilerdai a adferwyd.
Gan gwmpasu 53 erw o laswelltir, llecynnau coediog a safleoedd archeolegol, mae’r Mwynglawdd yn ymhyfrydu mewn amrywiaeth o fywyd gwyllt a chyfleoedd di-ben-draw i ymgolli mewn heddwch a llonyddwch.
Taith dywys a diwrnod gwybodaeth am wirfoddolwyr
Dydd Iau Chwefror 28, 12pm-4pm
Am ddim
Digwyddiad i oedolion – Ymunwch â ni ar daith gerdded dywysedig o amgylch Pyllau Plwm a Pharc Gwledig y Mwynglawdd, gan archwilio’r mwyngloddiau a’r treftadaeth ddiwydiannol.
Mae’r daith yn dechrau am 1.30pm ac yn para am tua 1.5 awr.
Os hoffech chi gefnogi’r safle treftadaeth diddorol hwn, mae amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael. Dewch draw ar y diwrnod i ddysgu rhagor am y Mwynglawdd ac i weld a allech chi fod yn rhan o’i ddyfodol!
Plu, Porthwyr a Phlant
Dydd Llun Chwefror 25, 1pm-3pm
Am ddim
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy cyfeillgar i’r teulu, darllenwch ymlaen!
Cyfle i blant greu porthwr neu fwydwr adar syml a chael hwyl wrth ddilyn ein llwybr drwy’r
parc i chwilio am adar ar ein taith.
Binociwlars ar gael neu dewch â’ch rhai eich hun.
Bingo Natur
Dydd Gwener 1af Mawrth
Sesiwn 1: 10.30am -11.15am
Sesiwn 2: 11.45am-12.30pm
Am ddim
Un arall i’r plant, ymunwch â Kate am sesiwn hwyliog o bingo natur sy’n edrych ar y parc gwledig a dysgu am y trigolion bywyd gwyllt.
Dewiswch pa sesiwn rydych chi am ddod.
- Cynhelir yr holl weithgareddau yn yr awyr agored felly gwisgwch ddillad ac esgidiau addas os gwelwch yn dda.
- Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol bob amser.
- Mae toiledau ar y safle.
- Digwyddiadau yn dibynnu ar y tywydd, cadwch lygad ar
ein tudalen Facebook ar y diwrnod.
www.groundworknorthwales.org.uk/visitminera
info@groundworknorthwales.org.uk
Facebook
01978 757524
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR