Ym mis Hydref y llynedd, lansiodd ein gwasanaeth llyfrgell gystadleuaeth dylunio cerdyn llyfrgell newydd i blant.
Roeddem yn gwybod y byddai’r gystadleuaeth yn boblogaidd – ond nid oeddem yn ymwybodol pa mor boblogaidd oedd o’n mynd i fod!
Ar y cyfan, cawsom fwy na 450 o gystadleuwyr – a phob un ohonynt nawr yn goleuo’r cyntedd yn Llyfrgell Wrecsam.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Enillwyr y gystadleuaeth oedd Daisy Moore a Felicity Woods, a chyflwynwyd talebau anrheg a chardiau llyfrgell newydd iddynt mewn seremoni gyflwyno yn Llyfrgell Wrecsam.
Mae’r dyluniadau buddugol wedi’u gwneud yn gardiau llyfrgell yn barod, a byddant yn cymryd lle dyluniad presennol y cardiau llyfrgell i blant.
Mae cardiau llyfrgell bob amser ar gael – felly dewch draw i Lyfrgell Wrecsam i gasglu un o’r cardiau newydd.
Mae’n rhaid i bob plentyn (dan 12 oed) sy’n gwneud cais am gerdyn llyfrgell gael caniatâd rhiant, a thystiolaeth o’u hunaniaeth a’u cyfeiriad.
Tra rydych chi yno, pam na wnewch chi gael golwg ar waith y cystadleuwyr yn y cyntedd a anfonwyd atom gan gannoedd o blant ac oedolion ledled Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Hoffwn longyfarch Daisy a Felicity am ennill y gystadleuaeth dylunio cerdyn llyfrgell, rwyf yn sicr y bydd eu dyluniadau lliwgar yn derbyn croeso gan ein defnyddwyr llyfrgell ifanc.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION