Efallai i chi sylwi ar y gwaith sy’n mynd ymlaen mewn canolfannau hamdden ledled Wrecsam.
Mae Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid, Freedom Leisure, wrthi’n gweithio ar gynllun hirhoedlog i wella cyfleusterau hamdden ar hyd a lled yr ardal.
Lluniodd y ddau gytundeb y gwanwyn diwethaf, gyda Freedom Leisure yn cymryd rheolaeth ar bedair canolfan hamdden a gweithgareddau a phum cyfleuster chwaraeon defnydd deuol.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Ers hynny, mae’r Cyngor a Freedom Leisure wedi cychwyn ar gynllun buddsoddi £2.7 miliwn, gyda’r bwriad o ailwampio’r pedair canolfan – yn ogystal â chreu caeau 3G newydd mewn safleoedd ar draws yr ardal.
Bydd y gwelliannau, fydd yn cyflwyno’r cyfarpar campfa mwyaf modern a chyfleusterau newydd, yn cynnig ffyrdd newydd i aelodau gadw’n heini.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi, sydd â chyfrifoldeb am Hamdden: “Bu i mi agor y cyfleusterau newydd gwell yng Nghanolfan Hamdden Gwyn Evans yng Ngwersyllt yn ddiweddar, yn ogystal â Stadiwm Queensway ym Mharc Caia.
“Gwnaed gwelliannau gwerth dros £50,000 i Ganolfan Gwyn Evans, a gwerth dros £80,000 i Stadiwm Queensway.
“Roeddwn i’n llawn edmygedd o’r gwelliannau yn y ddau le – ond dydi’r rhain ond rhan o’r rhaglen welliannau sy’n cael ei chyflawni gennym ni yng Nghyngor Wrecsam a Freedom Leisure.
Mae rhestr lawn o welliannau yn yr arfaeth ar gyfer Y Waun a Byd Dŵr, gyda buddsoddiad ar y cyd o dros £2 filiwn i’r ddau.”
Ychwanegodd Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure: “Mae hanner cyntaf y flwyddyn hon yn bendant wedi bod yn brysur iawn gyda’r holl wahanol welliannau i’r cyfleusterau cymunedol rhagorol hyn yn Wrecsam.
“Gyda dau gae 3G newydd a thair campfa wedi’u hadnewyddu, mae gennym drydydd cae 3G newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Morgan Llwyd, sy’n gadael y gwelliannau mawr i’r Byd Dŵr ar ôl i ni eu datgelu ddiwedd yr haf!
“Rydym yn gweithredu’r cyfleusterau hyn mewn partneriaeth â’r Cyngor, ac yn hynod ddiolchgar am eu buddsoddiad hwy yn y gwelliannau – rydym ni’n fwy na dim ond gweithredwr canolfannau hamdden, ac yn ymfalchïo mewn creu cymunedau gweithgar.”
Delweddau 3D o gynlluniau’r Byd Dŵr
Mae Freedom Leisure wedi datgelu delweddau 3D o’r Byd Dŵr ar ei newydd wedd, ac mae’r fideo i’w gweld yma:
Diolch i’r defnyddwyr am eu hamynedd tra buom ni’n gosod y lifft newydd
Mae Cyngor Wrecsam a Freedom Leisure hefyd yn falch o gael cyhoeddi, yn ychwanegol at y gwaith gwella arfaethedig, bod lifft newydd wedi’i osod yn y Byd Dŵr.
Roedd y lifft gwreiddiol wedi torri ers peth amser. Ni fu ymdrechion i drwsio’r lifft yn llwyddiannus, felly penderfynwyd gosod lifft newydd i wneud yn siŵr y gallai pob un o ddefnyddwyr y ganolfan barhau i ddefnyddio’r cyfleusterau ar y llawr cyntaf.
Ychwanegodd y Cynghorydd Rogers: “Rydw i hefyd yn falch iawn o weld y lifft newydd yn gweithio yn y Byd Dŵr – mae defnyddwyr y ganolfan wedi bod yn amyneddgar iawn wrth i ni osod y lifft newydd, a dylid diolch iddynt am hynny.”
Meddi Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure: “Hoffwn ategu neges o ddiolch y Cynghorydd Rogers i gwsmeriaid y Byd Dŵr am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn. Fel y nodais yn flaenorol, nid oedd y ffaith bod y lifft wedi torri ers cymaint o amser yn fuddiol i ni, ac roeddem eisiau cael lifft oedd yn gweithio yn y Byd Dŵr cyn gynted ag y gallem.
“Mae defnyddwyr y Ganolfan wedi bod yn amyneddgar iawn trwy gydol y gwaith ar y lifft, ac mae’n bleser gen i adrodd y gwobrwywyd eu hamynedd, gan fod y lifft yn gweithio yn llawer cynt na’r disgwyl.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.freedom-leisure.co.uk/welsh/
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI