Mae wythnos olaf gwyliau’r haf wedi cyrraedd ac os ydych chi am wneud yn fawr o’r amser sydd gennych chi ar ôl gyda’ch plant bach, beth am ddarllen ymlaen a darganfod beth sy’n digwydd yn y fwrdeistref sirol!
1. Gwenyn Gweithgar a Lafant Lliwgar
Dewch draw i Barc y Ponciau ddydd Llun, 28 Awst, rhwng 1.30pm a 3.30pm i hel ychydig o lafant ffres i wneud tusw bychan a chreu gwenynen fach fel addurn. Byddwch hefyd yn dysgu am bwysigrwydd gwenyn! Y gost yw £2.50 y plentyn, a gallwch alw heibio i’r Pafiliwn Bowlio i gymryd rhan. Am fwy o fanylion, ffoniwch 01978 763140.
2. Magi-Ann
Os hoffech chi fynd ar helfa drysor a chreu rhywbeth arbennig gyda’ch plant bach, dewch draw i Lyfrgell Wrecsam ddydd Mawrth, 28 Awst, rhwng 2pm a 3.30pm! Mae hwn yn ddigwyddiad dwyieithog.
3. Melinau Gwynt Hyfryd
Galwch heibio i Barc Gwledig Dyfroedd Alun ddydd Mercher, 30 Awst, rhwng 1.30pm a 3.30pm i greu eich melin wynt eich hun i’w chymryd gartref. Mae’r digwyddiad hwn yn costio £2.50 ac yn addas i bob oedran, a does dim angen archebu lle ymlaen llaw. Ffoniwch 01978 763140 am fwy o wybodaeth.
4. Teils Clai
Ddydd Iau yma, 31 Awst, beth am i chi alw heibio i Barc Gwledig Tŷ Mawr i greu teilsen glai i hongian ar eich wal neu i osod o dan eich paned. Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer pob oedran ac yn costio £2.50. I gael rhagor o fanylion ffoniwch 01978 763140.
5. Dydd Gwener Llawn Hwyl
Mae Llyfrgell Cefn Mawr yn eich gwahodd i fwynhau crefftau syml ar gyfer dwylo bychain! Pob dydd Gwener, rhwng 3.30pm a 4.30pm, gall plant o 0 i 8 oed alw draw a mwynhau sesiwn lawn hwyl. Mae’r sesiwn yn rhad ac am ddim, ond gwerthfawrogir unrhyw rodd. I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at cefnmawr.library@wrexham.gov.uk.
Mwynhewch eich wythnos olaf i ffwrdd, a phob hwyl i chi yn yr ysgol fis Medi!