Mae’r arddangosfa ffotograffiaeth bwerus “Equipped for Life” yn agored i bawb ddod i’w gweld yn Nhŷ Pawb.
Mae’r darluniau yn dangos sawl cyn-aelod o’r Lluoedd Arfog a sut yr oeddent yn ymdopi wedi iddynt ddychwelyd yn ôl i’r byd go iawn – newid a oedd yn haws i rai nag eraill.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
“Dewch i gwrdd â chyn-filwr RAF, Andy Matthews o Wrecsam”
Bydd agoriad swyddogol ddydd Gwener, 2.00pm lle bydd Andy Matthews, cyn-filwr RAF o Wrecsam, ar gael i sgwrsio gydag ymwelwyr. Ef yw un o’r bobl yn y lluniau, ac ar ôl gwasanaethu am 14 o flynyddoedd yn y RAF, sylweddolodd yr hoffai wneud mwy mewn rôl eiriolaeth. Ymadawodd â’r lluoedd er mwyn astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr yma yn Wrecsam. Enillodd radd dosbarth cyntaf a gwobr fel y myfyriwr a gyflawnodd fwyaf. Ers ymadael â’r brifysgol, mae wedi dechrau gweithio i’r trydydd sector fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau.
Mae croeso cynnes i’r cyhoedd fynychu’r agoriad hwn a chael sgwrs gydag Andy. Bydd ar gael o 2pm ymlaen ddydd Gwener yn nerbynfa Tŷ Pawb ger mynedfa Stryt y Farchnad.
Mae gwybodaeth bellach ar gael i’w darllen yma:
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION