Rydym yn falch o gyhoeddi y noson comedi gyntaf i’w gynnal yn Nhŷ Pawb!

Y mis Medi hwn, byddwn yn cynnal sioe o rhai o’r ddigrifwyr proffesiynol gorau o’r gylchdaith deithiol genedlaethol.

Mae’n gyfle perffaith am noson allan i adael i chi deimlo’n gyffrous!

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Pwy fydd yno?

Bydd y perfformwyr talentog canlynol yn ymuno â ni:

Steve Harris

  • ‘A-lister’ ar y cylched comedi.
  • Cefnogaeth i Peter Kay, Lee Evans a Johnny Vegas.
  • “Quite simply.. fantastically funny” – Gwefan y BBC

Callum Oakley

  • “A rising star…” – David Walliams.
  • Seren 2012 ‘Britain’s Got Talent’.

Sian Davies

  • Rownd derfynol – Nandos New Comedian of the Year 2017.
  • Rownd derfynol – Gwobr Camau Merched Ffrindiol 2018.

Kevin Caswell-Jones

  • “Beautifully cynical and very funny indeed” – Kill for a Seat Comedy.
  • “Imagine your Grandad was cool” – Hot Water Comedy Club, Lerpwl.

    Noson llawn o adloniant

  • Cynhelir ein noson gomedi gyntaf ddydd Gwener Medi 14 am 7.30pm.
  • Bydd y bar yn agored a chynigir bwydlen cyn-comedi rhwng 6.00pm-7.00pm hefo Plât Bach.
  • Digwyddiad tocyn yn unig yw hon.
  • Cliciwch yma i archebu’ch tocyn, neu cysylltwch â swyddfa docynnau Tŷ Pawb ar 01978 292144, e-bostiwch typawb@wrexham.gov.uk neu ewch i brynu eich tocynnau yn Nhŷ Pawb, St Market, Wrecsam, LL13 8BB.

Ewch i wefan Tŷ Pawb yma

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION