Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch i ni herio “Dim Ond” ar Ddiwrnod Rhyngwladol Merched
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dewch i ni herio “Dim Ond” ar Ddiwrnod Rhyngwladol Merched
Y cyngor

Dewch i ni herio “Dim Ond” ar Ddiwrnod Rhyngwladol Merched

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 8, 2022 9:11 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Dewch i ni herio "Dim Ond" ar Ddiwrnod Rhyngwladol Merched
RHANNU

Mae heddiw’n Ddiwrnod Rhyngwladol Merched ac rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i dynnu sylw at y ffaith nad yw “DIM OND” yn esgus am ymddygiad amhriodol oherwydd does dim esgus amdano ac i’w herio pan maent yn dod ar ei draws.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Gyda ffrindiau, neu’n llais bach yn eich isymwybod eich hun, mae dau air sydd bob amser yn ceisio esgusodi ymddygiad amhriodol. “DIM OND”.

  •  “DIM OND” pinsio ei phen-ôl wnes i
  •  “DIM OND” chwibanu arni wnes i
  •  “DIM OND” gwneud sylw am ei chorff wnes i
  •  “DIM OND” pwyso yn ei herbyn wnes i
  •  “DIM OND” cerdded tu ôl iddi wnes i
  •  “DIM OND” ei threisio wnes i

Ydi hyn yn swnio’n gyfarwydd?

Ni ddylai’r geiriau “DIM OND” gael eu defnyddio yn unrhyw un o’r uchod oherwydd does dim esgus am unrhyw weithred sy’n achosi ofn, braw neu ofid. Mae trais a cham-drin o bob math yn erbyn merched yn anghywir.

Meddai’r Arolygydd Claire McGrady o Heddlu Gogledd Cymru, “Mae ‘DIM OND’ yn rhywbeth yr ydym yn ei glywed drwy’r amser ac i lawer mae’n arferol iddynt esgusodi eu hymddygiad fel hyn. Rydym yn awyddus i annog pawb i herio’r ymddygiad a chodi ymwybyddiaeth o’r niwed, yr ofn a’r gofid y mae’n ei achosi.

“Nid yw’n iawn. Mae hefyd yn amharchus iawn ac mae merched yn haeddu ac yn disgwyl gwell.”

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Pa un ai ydi o’n digwydd ar noson allan, yn y gweithle neu goleg, mae angen mynd i’r afael â hyn ac mae cyfrifoldeb ar ddynion i wynebu canlyniadau eu gweithredoedd a gweithredoedd eraill.

“Dylent godi llais neu ddysgu sut y gallant fod yn fwy parchus tuag at ferched.”

Mae agweddau sy’n esgusodi ac yn normaleiddio cam-drin yn rhan o’n diwylliant. O jocio a ‘thynnu coes’ rhywiaethol i aflonyddu a threisio.

Mae’r ymgyrch yn annog dynion i godi llais am yr ymddygiad hwn ble bynnag y maent.

Nid yw herio eraill ynghylch eu hymddygiad yn golygu eu bychanu neu godi cywilydd arnynt, nac yn rheswm i godi dwrn. Mae’n fater o addysgu pobl a’u hannog i newid eu hagwedd.

Dim ond mewn ffordd sy’n ddiogel i bawb y dylem fynd ati i herio ymddygiad ac agweddau amharchus/niweidiol.

Os ydych chi’n bryderus am eich ymddygiad eich hun, ymddygiad dyn arall neu eisiau helpu merched i deimlo’n fwy diogel, ewch i https://llyw.cymru/dim-esgus a chliciwch ar y dolenni.

Gallwch hefyd gael cyngor ynglŷn â sut i gael gwybod mwy a sut i wneud mwy i helpu merched i deimlo’n ddiogel.

Mae Dim Esgus yn ymgyrch ledled Cymru gan Lywodraeth Cymru yr ydym ni’n ei chefnogi fel rhan o’r Ymgyrch Strydoedd Mwy Diogel yma yn Wrecsam.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi’n 16 oed a throsodd? Oes gennych bum munud? Ydych chi’n 16 oed a throsodd? Oes gennych bum munud?
Erthygl nesaf Caddie Liners Arolwg Gwastraff Bwyd – dyma ddwedoch chi wrthym ni.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English