Dyma Nadolig cyntaf Tŷ Pawb a gwahoddir chi i ddod draw i weld beth sydd ar gael ar gyfer yr anrhegion a’r danteithion munud olaf.
Os nad ydych wedi galw heibio eto, dyma’r amser i ymweld â’r safle – cewch eich synnu â’r hyn sydd ar gael ac rydych yn sicr o gael croeso cynnes.
Mae nifer o stondinau marchnad i ddewis ohonynt – mae amrywiaeth mawr o anrhegion – neu beth am gael rhywbeth bach i’ch hun – yn cynnwys ffigyrau bach, llyfrau comig a memorabilia, danteithion, bomiau bath ac ystod fawr o ddillad ar gyfer bob oed, yn cynnwys dillad retro a’r ffasiwn ddiweddaraf.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Gallwch wneud eich ewinedd a’ch gwallt a beth am ginio anhygoel yn yr ardal fwyd i ddilyn, ac yna taith i’r orielau celf lle gallwch ddewis darn o waith celf ar gyfer y perthynas neu ffrind sy’n anodd prynu anrheg ar eu cyfer!
Croesawir marchnadoedd newydd atom hefyd, sef siop Clwb Pêl-Droed Wrecsam a’r Wicked Fairies sydd â dewis gwych o ddillad ac ategolion retro.
Gwyliwch y fideo hwn a gynhyrchwyd yn gynharach eleni:
Gallwch ymweld â’u gwefan yma (https://www.typawb.wales/)
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]