Mae’n siŵr eich bod yn gwybod am y gwaith Strydwedd sy’n digwydd ar hyn o bryd ynghanol tref Wrecsam.
Hwn yw’r cam cyntaf mewn rhaglen gyfan o waith yr ydym yn bwriadu ei wneud yng nghanol y dref, lle byddwn yn buddsoddi £420,000 mewn gwella palmentydd a chelfi stryd ynghanol Wrecsam.
Mae llawer iawn o’r gwaith cychwynnol – ar Stryt y Frenhines, Stryt yr Hôb a’r Stryd Fawr – wedi’i wneud yn barod.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Mewn ychydig wythnosau byddwn wedi cwblhau’r cam cyntaf i gyd – dyma’r hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn.
Mae’r troedffyrdd heibio’r siopau bron wedi gorffen, a’r contractwyr wrthi’n ddyfal yn gwneud y lôn gerbydau yn y canol – y ‘ffordd’ sy’n mynd drwy ganol y stryd.
Rhoddwyd palmentydd newydd ar y rhannau o Stryt yr Hôb sydd wedi’u tirlunio, wrth y gyffordd â Stryt y Frenhines, ac unwaith y bydd y lôn gerbydau wedi gorffen byddwn yn mynd ymlaen i osod rheiliau newydd, seddi, biniau sbwriel a bocsys planhigion.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r cyhoedd, siopwyr a busnesau am fod mor amyneddgar yn ystod y cam cyntaf hwn o’r gwaith yng nghanol tref Wrecsam.
Mae’r strydoedd yn edrych yn brafiach yn barod, ac ar ôl gosod y celfi newydd bydd golwg llawer gwell ar y rhan honno o’r dref.”
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU