Mae Cyngor Wrecsam yn paratoi ar gyfer mis Derbyn Awtistiaeth. Bob dydd Mawrth yn ystod mis Ebrill, byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio fer lle byddwch chi’n gallu dod i’n gweld ni i ddysgu am Awtistiaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i unigolion a theuluoedd. Pan fyddwch chi’n galw heibio, beth am gymryd rhan mewn sesiwn fer ar ymwybyddiaeth o Awtistiaeth?
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar yr amseroedd canlynol yn y lleoliadau canlynol:
Yr Hwb Lles
2, 16 a 30 Ebrill
10.30am-12.30pm
Sesiynau hyfforddiant 10.30am ac 11.30am (yn para 30 munud)
Llyfrgell Wrecsam
9 a 23 Ebrill
10.30am-12.30pm
Sesiynau hyfforddiant 10.30am ac 11.30am (yn para 30 munud)
Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu am Awtistiaeth, yn ogystal â chymorth i ofalwyr di-dâl a’r cyfle i gwrdd â staff a fydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Bydd Caffi Awtistiaeth yn lansio yn ystod mis Derbyn Awtistiaeth hefyd, a bydd yn dechrau ar 19 Ebrill. Cynhelir y Caffi Awtistiaeth bob yn ail ddydd Gwener rhwng 12 a 1pm yn Hwb Lles Adeiladau’r Goron a dyma’r lle perffaith i chi ddysgu mwy am Awtistiaeth a pha gefnogaeth sydd ar gael ar draws Wrecsam.