Person ifanc rhwng 16 a 25 oed yw rhywun sydd yn gadael gofal, sydd wedi derbyn gofal y tu allan i’w teulu ar ryw adeg.
Gall y cyfnod rhwng bod mewn gofal ac yna gadael gofal fod yn brofiad anodd iawn, yn enwedig pan fydd rhywun mor ifanc.
Yn rhan o wythnos Pobl sy’n Gadael Gofal rydym wedi gwahodd rhai o’n pobl ifanc sydd wedi gadael gofal i rannu eu profiadau, cyngor, eu straeon, eu cynlluniau a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae straeon rhai o’r bobl ifanc wedi bod yn emosiynol iawn a heblaw am newidiadau bach mewn rhai achosion i helpu i’w cadw’n ddienw, mae’r geiriau ysbrydoledig yn cael eu siarad gan y bobl ifanc eu hunain.
Gofynnwyd yr un cwestiwn i’r bobl ifanc sydd wedi gadael gofal, ac mae’r atebion yn dangos bod eu hamgylchiadau personol a’u personoliaethau wedi golygu profiadau gwahanol iawn.
Rydym ni’n gobeithio y bydd eu geiriau cynnig cysur, cyngor ac ysbrydoliaeth i oedolion ifanc eraill mewn sefyllfaoedd tebyg….
Dwi’n 18 oed, bron yn 19 ac wedi byw yn Wrecsam ar hyd fy oes ac ar hyn o bryd yn gwneud prentisiaeth mewn rheoli ar ôl gadael yr ysgol gyda 12 TGAU, canlyniad annisgwyl i fod yn onest a dwi’n falch iawn o’r hyn dwi wedi cyflawni. Mae gen i gariad ers 2 flynedd a hanner, 2 gi a chath.
Mi ddysgais yrru pan oeddwn i’n 17 oed a phasio’r prawf y tro cyntaf ac yna prynu fy nghar fy hun. Dwi wedi dod yn bell i gyrraedd y pwynt hwn ac yn teimlo’n llawn brwdfrydedd am fy nyfodol.
Dwi wedi cofrestru ar gwrs gradd rheoli busnes yn y brifysgol a dwi’n gwneud hynny’n rhan amser wrth weithio. Dyma’r opsiwn gorau i mi gan fy mod yn gallu dysgu ac ennill bywiolaeth ar yr un pryd.
Fel llawer iawn o ferched yr un oed â mi dwi wrth fy modd gyda cholur a ffasiwn. Dwi wedi bod yn dilyn cwrs colur achrededig ar-lein, dwi hefyd wedi bod yn gwneud colur i deulu a ffrindiau ar gyfer priodasau a phartïon ac ati.
Dwi’n mwynhau mynd i’r gampfa mae’n ffordd dda i ymlacio ar ôl gweithio ac mae’n rhoi hwb i’r ffordd dwi’n teimlo. Dwi’n hoffi pobi cacennau ac yn mwynhau bwyta’r canlyniadau hefyd haha!
Dwi wedi bod yn y system gofal ers yn blentyn ifanc iawn, ac er fy mod yn ifanc iawn ar y pryd dwi’n cofio bywyd cyn mynd i ofal maeth. Mae’n rhyfedd gan fod gennyf emosiynau cymysg iawn am yr atgofion hyn.
Treuliais 5 mlynedd gyda chwpl bendigedig ond wedi hynny dyma fy amgylchiadau’n newid. Ar ôl hynny cefais fy symud o gwmpas ac roedd y blynyddoedd yn fy arddegau yn anodd iawn oherwydd hynny. Doedd pethau byth yn teimlo’n iawn rhyngof i a’r teuluoedd maeth.
Pan oeddwn i’n 14 oed bu farw fy nhad, ac yn sydyn iawn hefyd bu farw’r gofalwr maeth yr oeddwn yn byw gydag ar y pryd, i gyd o fewn misoedd i’w gilydd.
Fel y gallwch ddychmygu roedd fy emosiynau ar hyd bobman ac roedd hi’n gyfnod anodd am nifer o flynyddoedd.
I ddilyn bu llawer o leoliadau tymor byr a llawer o ansicrwydd. Heb gymorth yr ysgol a fy ngweithiwr cymdeithasol hirdymor o 11 mlynedd dwi ddim yn siŵr iawn sut y byddwn wedi ymdopi gyda’r cyfnod hwn. Roeddwn i’n flin ac yn teimlo ar goll. Roeddwn yn mynychu sesiynau cwnsela i’n helpu i wneud synnwyr o’r hyn yr oeddwn yn ei deimlo.
Yn Rhagfyr 2016, cefais fy rhoi mewn lleoliad brys gyda rhywun yr oeddwn yn ei adnabod. Ar y dechrau roedd yn anodd ymgynefino a phrosesu’r holl bethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Fodd bynnag, 5 mlynedd yn ddiweddarach a dwi dal yma.
Dwi’n eu gweld nhw fel fy nheulu go iawn a dwi’n hapus iawn. Maen nhw wedi dysgu sgiliau byw i mi na fyddai gennyf oni bai amdanyn nhw, pethau fel sut i edrych ar ôl fy arian, ac nid cynnig tŷ yn unig ond cartref i mi. Dwi’n teimlo’n ddiogel iawn yma, mae yna sicrwydd a chariad yma sy’n rhywbeth dwi erioed wedi’i deimlo o’r blaen.
Doedd y trawsnewid o 16-18 oed ddim yn amlwg iawn o ran y sefyllfa gofal. Y rheswm dros hynny yw bod gennyf dal yr un gweithiwr cymdeithasol ac mae’r teulu oedd yn gofalu amdanaf wedi dadlau bod modd i mi aros fel person ifanc yn gadael gofal.
Dwi wastad wedi teimlo fel person annibynnol beth bynnag felly doedd na’m llawer i’w newid o ran hynny. Dwi wedi cael fy rhoi ar y rhestr dai, fodd bynnag dwi’n cynilo ar hyn o bryd ar gyfer blaendal i brynu fy nhŷ fy hun ac wedi hel dipyn o arian hyd yma.
I fod yn onest ni fyddwn i wedi credu bod modd i mi gyflawni hyn hyd yn oed y flwyddyn ddiwethaf. Fel y soniais yn gynharach dwi ar fin dechrau gradd ac er y byddaf yn parhau i fyw gartref a gweithio, mae gennyf hawl i gefnogaeth fel unigolyn sy’n gadael gofal. A bydd hynny’n help garw i mi yn ariannol. Dwi wedi cael fy arwain trwy’r prosesau a chyfleoedd hyn diolch i fy Nghymhorthydd Personol hyfryd.
Ar yr un pryd dwi’n gweithio tuag at orffen fy mhrentisiaeth lefel 3 (cyfwerth â Lefel A) ac yn ennill bywoliaeth ar yr un pryd. Dwi’n teimlo fod prentisiaeth yn fwy addas i mi gan fod gennyf werthoedd cryf o ran gweithio ac yn awyddus iawn i ddysgu sgiliau byw. Yn y dyfodol dwi’n gobeithio defnyddio fy ngradd busnes i ymgymryd â rôl rheoli mewn busnes.
Dwi’n teimlo drwy roi blaendal ar gyfer tŷ fy hun yn y blynyddoedd nesaf bydd yna bosibilrwydd i mi deithio ychydig mwy wedyn os bydd y cyfyngiadau teithio yn cael eu codi.
Wrth edrych yn ôl dros y cwta 5 mlynedd diwethaf dydi pethau heb fod yn hawdd ac rwyf wedi gorfod gweithio ar berthnasau ac ar y ffordd dwi’n mynegi fy nheimladau, a gwneud hynny heb rwystredigaeth a heb wylltio. Dwi’n gweld hynny’n llawer haws erbyn hyn.
Mae gennyf lawer mwy o annibyniaeth a chefnogaeth pan dwi ei angen. Dwi’n berson hyderus iawn ac yn rhydd i wneud pethau ac mae gyrru wedi fy helpu yn arbennig, mae wedi rhoi’r annibyniaeth hynny i mi a’r ymdeimlad o gyrhaeddiad.
I rywun sy’n darllen hwn ac yn teimlo bod y rhagolygon ar gyfer dyfodol yn edrych yn reit dywyll, dewch o hyd i’r bobl gywir, dewch o hyd i’r gefnogaeth gywir a gweithiwch ar eich hun, ac mi fydd pethau yn dod yn llawer mwy clir.
Os ydych chi’n rhywun sy’n gadael gofal ac eisiau cyngor, cysylltwch â’r tim gadael gofal :01978295610
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth cysylltwch â:Taylor Downes , 01978295316 , Taylor.Downes@wrexham.gov.uk
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am gynnig llety â chefnogaeth, cysylltwch â:Sara Jones – sara.jones@wrexham.gov.uk, 01978295320
<em><a href=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”> Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.</a></em>
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL