Ni ellir gorbwysleisio’r manteision o gael rhandir.
Mewn oes lle mae mwy a mwy o bobl yn poeni am “filltiroedd bwyd” a’r hyn sydd wedi mynd i mewn i drefnu eu bwyd, does dim ffordd well o sicrhau bod y ffrwythau a’r llysiau rydych yn eu bwyta yn cyrraedd eich safonau chi na thyfu eich bwyd eich hun.
Ac mae’n dda i chi mewn ffyrdd eraill hefyd.
Gall hanner awr o arddio ar randir losgi cymaint o galorïau ag aerobig ysgafn – a gall mynd allan i’r rhandir eich helpu i gwrdd â phobl newydd a chymdeithasu mewn lleoliad gwahanol.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Fel rhan o Wythnos Rhandiroedd Cenedlaethol, sy’n rhedeg o ddydd Llun, 14 Awst i ddydd Llun, 20 Awst, mae Cyngor Wrecsam yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd fyddai â diddordeb mewn rhentu rhandir eu hunain i ychwanegu eu henwau at restrau aros presennol.
Mae Cyngor Wrecsam yn rheoli pedwar rhandir, lle gall aelodau o’r cyhoedd rentu llain.
- Rhandir Erddig (Hollow/Cae Thomas), Ffordd Erddig
- Rhandir Fictoria, Ffordd Fictoria
- Rhandir Lôn Price, Lôn Price
- Rhandir Tanyfron, Glen Way, Tanyfron
Mwy o wybodaeth ar randiroedd Cyngor Wrecsam a gwneud cais am un o’r lleiniau, ar gael yma.
“Mae rhoi eich enw ar restrau aros yn ein helpu ni i asesu’r galw”
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er bod lle ar randiroedd y cyngor yn amodol ar restrau aros, byddem bob amser yn cynghori pobl i roi eu henwau ar y rhestrau, fel y gallwn gael syniad o’r galw sydd yna am randiroedd.
“Gan ei bod yn Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i ddefnyddwyr rhandir ar draws Wrecsam – maent yn gwneud gwaith gwirfoddol ardderchog sy’n ychwanegu elfen arall i’r amgylchedd awyr agored yn Wrecsam, a gwerthfawrogir hynny’n fawr iawn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Mae rhestrau aros yn hirach yn Erddig, Tanyfron a Fictoria, ond rhestr aros fach sydd yna ar gyfer Lôn Price, felly mae’n werth i bobl gysylltu.”
Fel rhan o’r gyfres o ddigwyddiadau ar draws y wlad ar gyfer Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd, bydd Cymdeithas Rhandir a Garddwyr Hamdden Wrecsam yn cynnal Sioe Flodau, Llysiau a Chynnyrch Cartref Agored ar gyfer 2017 yn Eglwys Santes Margaret a’r Neuadd Gymunedol ar Ffordd Caer, Wrecsam o 2pm, dydd Sadwrn, 19 Awst.
Am fwy o fanylion am y digwyddiad a’r gwaith a wneir gan y Gymdeithas, ewch i www.walga.co.uk.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI