Cynhelir y digwyddiad hwn yn Nhŷ Mawr ar 7 Medi rhwng 10am a 3pm a bydd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o sut beth yw byw ag awtistiaeth gan ddod ag amryw o bobl a sefydliadau ynghyd sy’n gallu cynnig gwybodaeth a chyngor am awtistiaeth.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Bydd hwyl a gemau teuluol, disgo tawel, therapïau holistig a Bws Awtistiaeth Rhithwir ar y safle i bobl gael edrych o’i gwmpas. Mae’r bws Awtistiaeth Rhithwir yn rhoi profiad rhithwir byr a chraff o’r effaith y mae awtistiaeth yn ei gael ar y rheiny sy’n byw â’r cyflwr bob dydd ac mae’n darparu mewnwelediad gwerthfawr.
Mae’n hanfodol eich bod yn archebu i gael mynediad i’r bws, ffoniwch 01978 292066
Bydd siaradwyr gwadd yn siarad am eu profiadau uniongyrchol o weithio, byw a chefnogi rhywun ag awtistiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae byw gydag awtistiaeth yn rhywbeth y gall y rhan fwyaf ohonom ond ei ddychmygu ac mae digwyddiadau fel hyn yn ein helpu i gyd i ddeall y cyflwr a’r heriau dyddiol sy’n wynebu’r rheiny sy’n cael eu heffeithio. Rydw i’n gobeithio y bydd cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn y mynychu a dymunaf yn dda i’r trefnwyr ar gyfer digwyddiad llwyddiannus.”
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim a chodir £1 am barcio.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION