Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tâl am Finiau Gwyrdd – y sefyllfa ar hyn o bryd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Tâl am Finiau Gwyrdd – y sefyllfa ar hyn o bryd
Y cyngor

Tâl am Finiau Gwyrdd – y sefyllfa ar hyn o bryd

Diweddarwyd diwethaf: Medi 2, 2019 12:18 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
green bin
RHANNU

Mae nifer ohonoch chi’n gwybod eisoes y byddwn ni’n codi £25 y flwyddyn i wagio eich bin gwyrdd o 1 Ebrill 2020 ymlaen. Roedd yn benderfyniad anodd, ond yn sgil toriadau amlwg, parhaus i gyllid llywodraeth leol, doedd dim dewis ond gwneud fel cynghorau eraill a chodi tâl am y gwasanaeth dewisol hwn.

Cynnwys
  • “Dydw i ddim eisiau bin gwyrdd rŵan”
  • “Dydw i ddim eisiau talu ond rwyf eisiau cadw’r bin gwyrdd”
  • “Beth arall allaf i ei wneud?”

I sicrhau bod eich bin gwyrdd yn dal i gael ei wagio o fis Ebrill 202 ymlaen, bydd angen i chi dalu ar-lein neu gyda cherdyn dros y ffôn. Fe fyddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch chi wneud hyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn gan ein bod ni wrthi’n gosod y systemau i allu gwneud hyn yn rhwydd.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Os ydych chi eisoes yn talu am unrhyw finiau gwyrdd ychwanegol i gael eu gwagio, bydd y rheini hefyd yn costio £25.

“Dydw i ddim eisiau bin gwyrdd rŵan”

Os felly, fe ddown ni i’w nôl. Ewch ar-lein i Fy Nghyfrif a mewngofnodi neu gofrestru i ofyn i ni ddod i’w nôl. Fe ddown i’w gasglu, ond fydd hynny ddim yn digwydd yn syth felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar. Yn y dyfodol, os byddwch chi’n newid eich meddwl ac yn dymuno talu i gael gwagio bin gwyrdd, bydd yn rhaid i chi brynu bin newydd os ydych wedi anfon yr un oedd gennych yn ei ôl.

“Dydw i ddim eisiau talu ond rwyf eisiau cadw’r bin gwyrdd”

Mae hynny’n iawn. Gallwch ddal eich gafael arno ond ni fyddwn yn ei wagio. Os ydych yn penderfynu talu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio yn y dyfodol, ni fydd angen i chi dalu am fin gwyrdd newydd.

Mewngofnodwch neu gofrestru ar Fy Nghyfrif yma:

“Beth arall allaf i ei wneud?”

Mae dewisiadau ar wahân i ddefnyddio bin gwyrdd. Gallwch gompostio gartref neu ddefnyddio un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae manylion am y rhain yma.

Gobeithio y byddwch chi’n dal eisiau i ni wagio eich bin gwyrdd gan ein bod ni eisiau gweld cyfraddau ailgylchu Wrecsam yn cynyddu o un flwyddyn i’r llall, ond mae’n gyfnod caled ac rydyn ni’n deall os nad ydych chi eisiau talu am y gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn benderfyniad anodd iawn a wnaeth y Cyngor er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn a gwarchod gwasanaethau rheng flaen allweddol eraill. Mae trigolion wedi bod yn gefnogol iawn o’n hymgyrchodd ailgylchu ers 2003 ac rydyn ni’n gwybod y gallai hyn edrych fel cam yn ôl. Nid oeddem ni eisiau cyflwyno tâl am finiau gwyrdd ac ymrwymiad y Cyngor oedd cyflwyno’r tâl lleiaf posib’ o £25 fesul bin gwyrdd, sy’n un o’r prisiau isaf yng Nghymru a Lloegr.

Mae cyflwyno tâl am wastraff gwyrdd yn unol â Glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer Casgliadau a dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein grant amgylcheddol sy’n cefnogi mentrau ailgylchu wedi parhau i gael ei gwtogi o flwyddyn i flwyddyn, er bod ein targed o 70% yn dal yr un fath. Mae’r Cyngor yn ymrwymo i ailgylchu a lleihau gwastraff a gall trigolion barhau i ddefnyddio un o’n tair Canolfan Ailgylchu am ddim lle rydyn ni hefyd yn darparu compost am ddim a bydd hyn yn parhau yn y dyfodol.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol 3G football pitches Llifoleuadau newydd i fyny – archebwch rŵan!
Erthygl nesaf Digwyddiad Awtistiaeth ‘My Autism My Way’ Digwyddiad Awtistiaeth ‘My Autism My Way’

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English