Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad Cludiant Gwyrdd yng Nglyndŵr – Y cyntaf erioed yng Ngogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Digwyddiad Cludiant Gwyrdd yng Nglyndŵr – Y cyntaf erioed yng Ngogledd Cymru
ArallPobl a lle

Digwyddiad Cludiant Gwyrdd yng Nglyndŵr – Y cyntaf erioed yng Ngogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 20, 2018 1:36 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Digwyddiad Cludiant Gwyrdd yng Nglyndŵr – Y cyntaf erioed yng Ngogledd Cymru
RHANNU

Bydd cyfle i ddarganfod mwy am ddyfodol cludiant amgylcheddol gyfeillgar pan gynhelir y Digwyddiad “Cludiant Gwyrdd” cyntaf erioed yng Ngogledd Cymru.

Caiff ei gynnal yng Nghanolfan Catrin Finch ym Mhrifysgol Glyndŵr ddydd Gwener 23 Mawrth rhwng 10am a 4pm ac mae’n rhad ac am ddim.

Bydd modd i chi glywed gan y rheiny sydd â gwybodaeth a phrofiad o weithredu cludiant gwyrdd a gweld enghreifftiau o ddatrysiadau cludiant “gwyrdd” a modelau cyfredol sy’n gweithredu’n llwyddiannus yng Nghymru. Bydd arbenigwyr, grwpiau ac asiantaethau yn y digwyddiad yn darparu gwybodaeth ar y ceir trydan diweddaraf a cherbydau eraill ac yn rhoi cyfle i chi gyfarfod pobl eraill o’r ardal sydd â diddordeb datblygu datrysiadau cludiant gwyrdd.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Cynhelir y digwyddiad gan Adfywio Cymru a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a bydd ein Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd David A Bithell, yn agor y digwyddiad.

“Sector cyhoeddus carbon niwtral”

Meddai: “Rwy’n cefnogi cludiant gwyrdd yn frwd a byddaf yn falch iawn o agor y digwyddiad hwn – y cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru. Gobeithiaf y bydd mwy o barodrwydd ar gyfer 2030 pan mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio am sector cyhoeddus carbon niwtral ac yn y DU disgwylir y bydd gwerthu ceir petrol a disel yn dod i ben erbyn 2040. Bydd y fenter hon yn cefnogi’r ddwy amcan hon.”

Menter gymunedol yw Rhaglen Adfywio Cymru sy’n herio newid hinsawdd drwy gyngor, hyfforddiant a chymorth mentora. Mae eu gweithgareddau yn cynnwys datblygu adnoddau ynni adnewyddadwy cymunedol, cychwyn clybiau bwyd lleol, gwneud tir ac adeiladau yn fwy cynaliadwy, prosiectau teithio ynni effeithiol a chynaliadwy, sefydlu mentrau cymunedol ac ymgysylltu ag ysgolion a busnesau o ran gweithredu dros newid hinsawdd.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, cysylltwch â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam ar 01978 312556 neu e-bostiwch info@avow.org.

Gallwch ddarllen sut rydym yn cychwyn paratoi’r seilwaith ar gyfer cludiant gwyrdd yn Wrecsam yma

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

Rhannu
Erthygl flaenorol diwedd yr hawl i brynu - gwybodaeth i denantiaid y cyngor diwedd yr hawl i brynu – gwybodaeth i denantiaid y cyngor
Erthygl nesaf Free digital support to help local businesses upskill Camwch i’r Byd Digidol ym Mhlas Pentwyn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English