Mae digwyddiad Cymraeg tri diwrnod ar ei ffordd yn ôl i ganol tref Wrecsam fel rhan o ŵyl gerddoriaeth a diwylliant flynyddol.
Bydd HWB Cymraeg, a gynhelir fel rhan o FOCUS Wales, yn dychwelyd i’w tipi ar Sgwâr y Frenhines o ddydd Iau, Mai 10 i ddydd Sadwrn, Mai 12.
Gwahoddir siaradwyr Cymraeg a dysgwyr rhugl fel ei gilydd, a’r rhai sydd â diddordeb mewn iaith a diwylliant Cymraeg, i ddod draw i fwynhau cerddoriaeth, gwersi, gweithdai, ffilmiau a gigs comedi.
Rhestr digwyddiadau
Bydd y digwyddiadau’n cychwyn hanner dydd bob dydd gyda gwers anffurfiol dan arweiniad Coleg Cambria
Bydd Mudiad Meithrin – cymdeithas meithrinfeydd Cymru – yn cynnal sesiynau crefft a stori, a bydd cymeriadau o gyfres Magi Ann o’r apiau dysgu Cymraeg hefyd yn ymweld â’r HWB.
Bydd llinell hir o gerddorion ac artistiaid Cymreig yn perfformio yn HWB Cymraeg ar draws y tri diwrnod.
Mae’r perfformwyr yn cynnwys Aled Rheon, Mei Emrys, Seazoo, Cantorion Glan Aber, Gogs, Bardd, Yucatan ac Allan yn y Fan, ynghyd â chyfres o DJs gwadd.
Bydd digwyddiadau yn yr HWB Cymraeg am ddim tan 7pm bob nos, ac ar ôl hynny bydd perfformiadau byw yn agored i bobl sy’n talu wrth y drws, neu ddeiliaid tocynnau neu bandiau arddwrn ar gyfer FOCUS Wales 2018.
Bydd y Comedïwr Tudur Owen hefyd yn cyflwyno ei sioe BBC Radio Cymru yn fyw yn HWB Cymraeg o 2pm tan 4pm ddydd Gwener, ac yna bydd Marathon Comedi dwyieithog gyda’r nos.
Ar gyfer y rhaglen lawn o ddigwyddiadau yn yr HWB Cymraeg, cliciwch ar y ddelwedd isod:
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Bu’r HWB Cymraeg yn elfen boblogaidd iawn o FOCUS Wales y llynedd, ac mae’n cyd-fynd yn dda iawn â gweddill digwyddiadau FOCUS Wales ledled y dref ar draws y tri diwrnod hynny.
“Mae rhaglen lawn a phleserus wedi’i chynllunio ar gyfer HWB Cymraeg, gydag amrywiaeth eang iawn o ddigwyddiadau ar gael, gyda rhywbeth i bobl ifanc a hen fel ei gilydd.
“Fel y cyfryw, byddwn i’n gwahodd siaradwyr Cymraeg a dysgwyr dawnus i ddod draw, yn ogystal ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn iaith a diwylliant Cymraeg, i ddathlu’r Gymraeg yng nghanol Wrecsam.”
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI