Cafodd tenantiaid Cyngor Wrecsam help llaw i ailgylchu sbwriel a hen eitemau tŷ yn ddiweddar yn ystod diwrnod sgip cymunedol.
Trefnwyd y digwyddiad gan swyddfa ystâd Caia Cyngor Wrecsam ac fe’i cynhaliwyd yn ardal Whitegate, Parc Caia.
Darparwyd sgip ar gyfer tenantiaid er mwyn iddyn nhw gael gwared ar eitemau mawr fel dodrefn, hen setiau teledu ac yn y blaen.
Roedd staff o swyddfa’r ystâd, gwasanaeth Strydwedd y Cyngor a’r Gwasanaeth Prawf wrth law i gynnig cymorth.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Gwasanaeth gwerthfawr i denantiaid
Roedd Cynghorydd Whitegate, Cynghorydd Brian Cameron, hefyd yn bresennol. Meddai: “Mae hwn wedi bod yn ddiwrnod sgip prysur dros ben arall yn Whitegate a hoffwn ddiolch i’r tîm o swyddfa’r ystâd, Strydwedd a’r Gwasanaeth Prawf ac wrth gwrs y tenantiaid lleol am drefnu a helpu yn y digwyddiad.
“Rydw i’n credu fod llwyddiant y digwyddiad heddiw yn dangos gwasanaeth mor ddefnyddiol yw hwn i denantiaid. Mae’n ei gwneud yn llawer iawn haws iddyn nhw gael gwared ar eitemau lletchwith heb orfod teithio’n bell o’u cartrefi na threfnu casgliadau.
“Rydw i’n hapus iawn â sut aeth y diwrnod – ar wahân i’r tywydd! Gobeithio y gallwn ni barhau i gynnal y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.”
Digwyddiadau prysuraf a welwyd eleni
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae ein pum swyddfa ystâd yn trefnu digwyddiadau fel hyn mewn cymunedau ar draws y fwrdeistref sirol yn rheolaidd. Maen nhw’n darparu gwasanaeth gwerthfawr gan helpu tenantiaid i gadw eu tai’n daclus a chlirio hen eitemau nad ydynt eu heisiau mwyach.
Dros fisoedd yr haf gwelsom rai o’r digwyddiadau prysuraf o’u math erioed ac rwy’n falch dros ben eu bod nhw’n dal i fod yn llwyddiannus a bod mwy a mwy o denantiaid yn manteisio arnyn nhw.
Gallwch ddarganfod mwy am y digwyddiadau hyn drwy ddilyn tudalen swyddogol Gwasanaeth Tai Cyngor Wrecsam ar Facebook neu gofrestru i dderbyn diweddariadau newyddion i denantiaid drwy e-bost.
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI