Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad glanhau cymunedol llwyddiannus..
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Norwich – parcio cyfleus a diogel
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Digwyddiad glanhau cymunedol llwyddiannus..
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad glanhau cymunedol llwyddiannus..

Diweddarwyd diwethaf: 2017/10/27 at 5:01 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Council community skip days
RHANNU

Cafodd tenantiaid Cyngor Wrecsam help llaw i ailgylchu sbwriel a hen eitemau tŷ yn ddiweddar yn ystod diwrnod sgip cymunedol.

Cynnwys
Gwasanaeth gwerthfawr i denantiaidDigwyddiadau prysuraf a welwyd eleni

Trefnwyd y digwyddiad gan swyddfa ystâd Caia Cyngor Wrecsam ac fe’i cynhaliwyd yn ardal Whitegate, Parc Caia.

Darparwyd sgip ar gyfer tenantiaid er mwyn iddyn nhw gael gwared ar eitemau mawr fel dodrefn, hen setiau teledu ac yn y blaen.

Roedd staff o swyddfa’r ystâd, gwasanaeth Strydwedd y Cyngor a’r Gwasanaeth Prawf wrth law i gynnig cymorth.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Gwasanaeth gwerthfawr i denantiaid

Roedd Cynghorydd Whitegate, Cynghorydd Brian Cameron, hefyd yn bresennol. Meddai:  “Mae hwn wedi bod yn ddiwrnod sgip prysur dros ben arall yn Whitegate a hoffwn ddiolch i’r tîm o swyddfa’r ystâd, Strydwedd a’r Gwasanaeth Prawf ac wrth gwrs y tenantiaid lleol am drefnu a helpu yn y digwyddiad.

“Rydw i’n credu fod llwyddiant y digwyddiad heddiw yn dangos gwasanaeth mor ddefnyddiol yw hwn i denantiaid. Mae’n ei gwneud yn llawer iawn haws iddyn nhw gael gwared ar eitemau lletchwith heb orfod teithio’n bell o’u cartrefi na threfnu casgliadau.

“Rydw i’n hapus iawn â sut aeth y diwrnod – ar wahân i’r tywydd! Gobeithio y gallwn ni barhau i gynnal y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.”

Digwyddiad glanhau cymunedol llwyddiannus..Digwyddiadau prysuraf a welwyd eleni

Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae ein pum swyddfa ystâd yn trefnu digwyddiadau fel hyn mewn cymunedau ar draws y fwrdeistref sirol yn rheolaidd. Maen nhw’n darparu gwasanaeth gwerthfawr gan helpu tenantiaid i gadw eu tai’n daclus a chlirio hen eitemau nad ydynt eu heisiau mwyach.

Dros fisoedd yr haf gwelsom rai o’r digwyddiadau prysuraf o’u math erioed ac rwy’n falch dros ben eu bod nhw’n dal i fod yn llwyddiannus a bod mwy a mwy o denantiaid yn manteisio arnyn nhw.

Gallwch ddarganfod mwy am y digwyddiadau hyn drwy ddilyn tudalen swyddogol Gwasanaeth Tai Cyngor Wrecsam ar Facebook neu gofrestru i dderbyn diweddariadau newyddion i denantiaid drwy e-bost.

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Enwebwch eich sêr chwaraeon cymunedol ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon Enwebwch eich sêr chwaraeon cymunedol ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon
Erthygl nesaf Wrexham frustrated person Rhwystredig? Peidiwch â gadael i’ch gwylltineb fod yn drech na chi

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 15, 2026
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall Ionawr 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Pobl a lle

Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 15, 2026
Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Norwich – parcio cyfleus a diogel

Ionawr 14, 2026
Wrexham city centre
Pobl a lle

Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – rhannwch eich barn ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Wrecsam

Ionawr 12, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English