Mae Ceidwaid Parciau Wrecsam yn trefnu Digwyddiad Glanhau Cymunedol ym Mharc Stryt Las ddydd Mercher, 16 Hydref rhwng 1.30pm a 3pm.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys codi sbwriel a thacluso’r safle’n gyffredinol. Bydd glanhau’r safle o fudd i drigolion lleol sy’n cerdded yn y parc ac i’r bywyd gwyllt sy’n byw yno. Mae gan y parc ddynodiad SoDdGA am y Madfallod Dŵr Cribog sy’n byw yno, ond mae hefyd yn gartref i nifer o anifeiliaid a phryfed.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Lleol Johnstown, “Hoffwn annog pawb i gymryd rhan yn y digwyddiad glanhau. Gyda help gwirfoddolwyr, rydyn ni’n gobeithio tacluso’r parc fel ei fod o’n lle deniadol, di-sbwriel i’r teulu cyfan ei fwynhau ac yn lle diogel i’r bywyd gwyllt sy’n byw yno.”
Os hoffech chi fod yn rhan o’r digwyddiad glanhau cymunedol, dewch i gyfarfod y trefnwyr wrth y brif fynedfa yng Nghwm Glas ddydd Mercher 16 Hydref rhwng 1.30pm a 3pm.