Gwahoddir busnesau lleol i Dŵr Rhydfudr ddydd Mercher 17 Gorffennaf am gyfle gwych i gymryd rhan mewn trafodaeth agored a rhannu gwybodaeth ynglŷn â theithio llesol a chynaliadwy.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 12pm yn yr Atriwm (ar y trydydd llawr) a bydd cyfle i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr gwadd, gan gynnwys aelodau o’n tîm Strategaeth Trafnidiaeth ein hunain.
Bydd ein tîm yn cyflwyno syniadau ar gyfer isadeiledd teithio llesol ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam ac yn gofyn i bobl ddangos ar fap rhyngweithiol lle hoffent weld pethau’n gwella, lle mae yno broblemau a’r bylchau y gellid eu pontio ar y stad.
Ymysg y siaradwyr eraill fydd Trafnidiaeth Cymru, Life on Wheels, darparwyr pwyntiau gwefru cerbydau trydan Costelloes EV, Sustrans, Living Streets, Cycling UK a Pedal Power.
Cewch gyfle hefyd i rwydweithio â busnesau eraill, rhannu’ch syniadau ynglŷn â theithio llesol a chynaliadwy a thrafod ffyrdd o ddatrys problemau.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Mae hwn yn gyfle bendigedig i fusnesau ddod ynghyd i leisio’u barn ynglŷn â rhwystrau sydd o bosib yn eu hatal nhw a’u gweithlu i ddefnyddio teithio llesol a chynaliadwy’n amlach. Rydyn ni eisiau helpu pawb i greu llai o garbon i’n helpu wrth ymateb i’r argyfwng hinsawdd.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi sy’n gyfrifol am Gymorth i Fusnesau: “Mi fydd hwn yn ddigwyddiad gwerth chweil a fydd yn rhoi cyfle i fusnesau wneud awgrymiadau, rhoi sylw i unrhyw broblemau a rhannu eu syniadau. Rydyn ni’n annog cymaint o fusnesau lleol â phosib i ddod ar 17 Gorffennaf.”
Cyn ichi ddod, dyma her ichi: ewch i Traveline Cymru a chynllunio eich taith arferol rhwng eich cartref a’r gwaith gan ddefnyddio dulliau mwy llesol a/neu gynaliadwy neu ryw fath gwahanol o gludiant, wedyn gallwch rannu’r hyn a welwch chi gyda phawb yn y digwyddiad.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gyfrannu at ddyfodol teithio llesol a chynaliadwy o gwmpas y stad ddiwydiannol a’r cyffiniau. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Mae prosiect Go Green 4 Nature o fudd i gymunedau ar draws Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.